Mae'r limrig yn fath o bennill ysgafn ddoniol sydd gan amlaf â thro annisgwyl yn y llinell olaf. Daw'r gair Cymraeg o'r Saesneg limerick (o'r enw lle Limerick, tref yng ngorllewin Iwerddon). Yn benaf gan fod yr enghreifftiau Saesneg cyntaf yn cael eu gosod i'r dôn Won't you come to Limerick
Mae gan limrig bum llinell yn odli a a b b a.
Honnodd Gershon Legman, a luniodd y flodeugerdd fwyaf, a mwyaf ysgolheigaidd o limrigau Saesneg, fod y gwir limrig fel ffurf werin bob amser yn anweddus, ac mae’n dyfynnu barn debyg gan Arnold Bennett a George Bernard Shaw, gan ddisgrifio’r limrig glân fel:—
“ |
Cais cyfnodolion a gwrthrych cystadlaethau cylchgrawn, "sydd yn anaml yn codi uwchlaw cyffredinedd". O safbwynt llên gwerin, mae'r ffurf yn ei hanfod yn fasweddus; mae torri tabŵ yn rhan o'i swyddogaeth.[1] |
” |
Er bod gan disgrifiad Legman o'r limrigau Saesneg eu cyffelyb yn y Gymraeg, ni fu erioed yn brif nodwedd ohonynt. Doniolwch, ysgafnder, a hwyl yw brif nodweddion y limrig Cymraeg yn hytrach na maswedd.
Efallai'r enwocaf o limrigwyr yn yr iaith Saesneg yw Edward Lear.
Mae'n ffurf weddol boblogaidd yn y Gymraeg, yn arbennig yn yr 20g. Mae'n un o'r tasgiau arferol yn y gyfres Talwrn y Beirdd. Dyma enghraifft gan John Fitzgerald (o'r flodeugerdd Yr Awen Ysgafn) :—
“ |
'Roedd unwaith yng ngholeg Tre-gib |
” |
Yn y Gymraeg, bydd odl ychwanegol yn cael ei ddefnyddio yn aml, gydag odl fewnol rhwng y bedwaredd linell a chanol y bumed linell, fel yn yr enghraifft hon gan Heddwyn Jones:— [2]
“ |
Yn sydyn daeth clatshen o daran |
” |
Un o'r beirdd cyntaf i ddefnyddio mesur y limrig yn y Gymraeg oedd y Parch John Blackwell (Alun), er enghraifft yn ei Fugeilgerdd[3] o 1824:—
“ |
A welaist, a 'dwaenaist ti Doli, |
” |
Ysgrifennodd Alun ei Limrigau cyntaf cyn bod Lear yn 12 mlwydd oed. Gan hynny gellir bod yn sicr mae nid llyfrau Lear a gyflwynodd y mesur i farddoniaeth Cymraeg.[4]