LineageOS

LineageOS
Sgrin gartref LineageOS 14.1 yn Gymraeg
Cwmni / datblygwrCymuned cod-agored LineageOS
Rhaglennir gydaC (craidd), C++ (rhai llyfrgelloedd tryddydd parti), Java (Rhyngwyneb defnyddiwr)
Teulu SWDebyg i Unix
Cyflwr gweithioGweithredol
Model ffynhonnellCod agored
Rhyddhad sefydlog diweddarafLineageOS 16 answyddogol, yn seiliedig ar Android Pie(9.0)
Targed marchnataCadarnwedd amgen ar gyfer dyfeisiau symudol Android
Dull diweddaruFflachio ROM, OTA (Over-the-air programming)
Rheolwr pecynAPK yn seiliedig ar ystorfeydd opsiynol megis F-Droid, Amazon Appstore neu Google Play (os wedi'u gosod)
Platfformau wedi eu cynnalARM, ARM64, x86, x86-64
Math o gnewyllynMonolithic (Linux)
TrwyddedDan amryw drwydded; gellir eu gweld fesul repo ar GitHub dan ffeiliau NOTICE/LICENSE
Gwefan swyddogollineageos.org

Mae LineageOS yn system weithredu cod-agored ac am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol, megis ffonau a llechi, ar blatfform Android.

Rhagflaenydd LineageOS oedd CyanogenMod, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2016 pan benderfynodd CyanogenMod Inc roi'r gorau i'r prosiect. Gan fod y prosiect yn god agored, fe'i parhawyd i'w datblygu gan y gymuned dan yr enw newydd, LineageOS. Erbyn Medi 2018, roedd LineageOS ar gael yn rhyngwladol ar gyfer dros 180 o ddyfeisiau gan 24 gwahanol gwneuthurwr.[1]

Hanes fersiynau

[golygu | golygu cod]
Fersiwn LineageOS Fersiwn Android Dyddiad rhyddhau adeiledd cyntaf Dyddiad rhyddhau adeiledd olaf Cefnogaeth
Old version, no longer supported: 13 Android 6.0.1
(Marshmallow)
22 Ionawr 2017 11 Chwefror 2018 Ni chefnogir bellach
Old version, no longer supported: 14 Android 7.1.2
(Nougat)
22 Ionawr 2017 24 Chwefror 2019 Ni chefnogir bellach
Old version, no longer supported: 15.1 Android 8.1.0
(Oreo)
26 Chwefror 2018 28 Chwefror 2019 Ni chefnogir bellach
Older version, yet still supported: 16 Android 9
(Pie)
1 Mawrth 2019 (Cyfredol) Cefnogir
Current stable version: 17.1 Android 10 1 Ebrill 2020 (Cyfredol) Cefnogir

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Devices". LineageOS Wiki. Cyrchwyd 20 Medi 2020.