Lisa Cholodenko | |
---|---|
Ganwyd | 5 Mehefin 1964 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cyfarwyddwr ffilm, ysgrifennwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr |
Adnabyddus am | Laurel Canyon, The Kids Are All Right |
Priod | Wendy Melvoin |
Partner | Wendy Melvoin |
Gwobr/au | Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special |
Awdures-sgrin a chyfarwyddwr ffilm Americanaidd yw Lisa Cholodenko (ganwyd 5 Mehefin 1964) sydd hefyd wedi gwneud ei marc yn y byd teledu. Ysgrifennodd a chyfarwyddodd y ffilmiau High Art (1998), Laurel Canyon (2002), a The Kids Are All Right (2010). Enillodd Wobr yr Ysbryd Rhydd, Annibynnol am y Sgript Gorau (Independent Spirit Award for Best Screenplay) yn 2010 am The Kids Are All Right (2010)
Mae wedi cyfarwyddo nifer o weithiau teledu, gan gynnwys y gyfres-bitw Olive Kitteridge (2014) a ddaeth a gwobr Primetime Emmy Award for Outstanding Directing for a Limited Series, Movie, or Dramatic Special iddi yn ogystal â Directors Guild of America Award for Outstanding Directing – Miniseries or TV Film.[1][2] [3][4][5]
Fe'i ganed yn Los Angeles ar 5 Mehefin 1964 ac fe'i magwyd mewn teulu Iddewig, rhyddfrydol.[6][7] Ymfudodd ei mam-gu a'i thad-cu o'r Wcráin; roedd hen-daid ei thad hefyd yn dod o Kyiv, Wcráin.[8]
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Columbia, Prifysgol San Francisco ac Ysgol Gelf Columbia.[9][10]
Astudiodd Cholodenko anthropoleg, astudiaethau ethnig, ac astudiaethau menywod ym Mhrifysgol Talaith San Francisco. Teithiodd i India a Nepal a threuliodd 18 mis yn Jerwsalem ar ôl graddio.[11]
Yna ymunodd ag Ysgol y Celfyddydau, Prifysgol Columbia yn 1992, gan ennill MFA mewn ysgrifennu a chyfarwyddo ar gyfer y sgrin yn 1997, lle'r oedd James Schamus yn un o'i hathrawon, a fyddai'n dod yn Brif Swyddog Gweithredol y cwmni Focus Features, yn ddiweddarach.[12]
Dechreuodd yn y diwydiant ffilm yn Efrog Newydd ar ddechrau'r 1990au. Gweithiodd fel prentis golygydd ar Boyz n the Hood gan John Singleton ac fel golygydd cynorthwyol ar Used People gan Beeed Kidron.[13]
Lisa Cholodenko (B.A., '87) could hardly believe the news.