Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, traethawd |
---|---|
Awdur | Gaston III de Fois-Bearn |
Iaith | Ffrangeg Canol |
Dyddiad cyhoeddi | 1390 |
Prif bwnc | hela |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Llyfr Ffrangeg am hela yw'r Livre de chasse ("Llyfr yr Helfa"), a ysgrifennwyd rhwng 1387 a 1389 gan yr uchelwr Ffrengig Gaston Fébus (Gaston III, Comte de Foix; 1331–1391). Yn Oesoedd Canol Diweddar, roedd hela yn ddawn hanfodol ymhlith yr uchelwyr, ac nid yn ddifyrrwch yn unig. Astudiwyd llyfr Fébus yn fanwl, a gwnaed llawer o gopïau llawysgrif ohono. Daeth yn werslyfr safonol ei ddydd ar dechnegau hela.
Mae 44 o lawysgrifau o Livre de chasse wedi goroesi, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o'r 15g, a dyrnaid yn dyddio o ddechrau'r 16g. Fe'i hargraffwyd deirgwaith yn ystod yr 16g. Troswyd i'r Saesneg ym 1415 gan Edward, Dug Efrog, dan y teitl The Master of Game; mae 27 o lawysgrifau o'r trosiad hwn wedi goroesi.
Rhennir y llyfr yn bedair rhan: