Llanbedr, Gwynedd

Llanbedr
Mathcymuned, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth533 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.8201°N 4.1014°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000067 Edit this on Wikidata
Cod OSSH582268 Edit this on Wikidata
Cod postLL45 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Llanbedr (gwahaniaethu).

Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Llanbedr ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yn ardal Ardudwy ychydig i'r de o Harlech lle mae'r A496 i Abermaw yn croesi Afon Artro.

Tyfodd y pentref yn wreiddiol oherwydd y diwydiant llechi, ac yn awr mae'n boblogaidd gydag ymwelwyr yn ystod yr haf. Mae nifer o henebion yn y cyffiniau, yn cynnwys meini hirion o Oes yr Efydd ac olion tai crwn. Rhwng y pentref a'r môr mae twyni tywod Morfa Dyffryn a Mochras sydd hefyd yn gyrchfan boblogaidd i ymwelwyr. Caewyd maes awyr y Llu Awyr Brenhinol ar Forfa Dyffryn yn 2005. Mae'r safle wedi'i glustnodi yn Ardal Fenter gan Lywodraeth Cymru. Bwriedir hedfan dronau ac efallai awyrennau i'r gofod o'r maes awyr yn y dyfodol agos. Mae gan y pentref orsaf ar Reilffordd y Cambrian.

Rhyw filltir i'r dwyrain o'r pentref mae Pentre Gwynfryn. Y capel yma oedd capel "Salem" yn y llun enwog gan Sydney Curnow Vosper o Siân Owen, Tynyfawnog. Gerllaw Mochras gellir gweld rîff danfor Sarn Badrig ar lanw isel.

Gefeilldref

[golygu | golygu cod]

Gefeilliwyd Llanbedr â Huchenfeld yn 2008 wedi nifer o flynyddoedd o gyfnewid rhwng yr ysgolion, eglwysi, cerddorion ac arweinwyr y cymunedau. Datblygwyd perthynas agos a sefydlwyd ewyllys da rhwng y cymunedau er cof am y digwyddiadau erchyll ym 1945 yn Pforzheim a Huchenfeld yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[1]

  • Llanbedr 50 mlynedd yn ôl”

“Gruffydd Dafydd oedd y gof [tua 1850] ac roedd yntau’n bersonoliaeth boblogaidd yn y pentref, yn ffraeth, yn siaradwr cyflym ac yn weithiwr dygn. Daeth ei efail yn fan cyfarfod i’r pentrefwyr. Roedd ganddo ddawn arbennig i doddi copr ac efydd, a phan ofynnwyd am y dull cyfrinachol, ei ateb bob amser oedd, “Mae arnoch angen lapis calamoniaris, machgen i!”[2]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanbedr, Ardudwy (pob oed) (645)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanbedr, Ardudwy) (338)
  
55%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanbedr, Ardudwy) (348)
  
54%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanbedr, Ardudwy) (117)
  
39.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan llanbedr.com adalwyd 18 Medi 2014
  2. o draethawd a ysgrifennwyd gan Gwilym Ardudwy ym 1907 o dan y pennawd ‘Llanbedr 50 mlynedd yn ôl’” LLANBEDR(ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54[1]
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.