Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Merthyr Mawr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.497147°N 3.658194°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Jamie Wallis (Ceidwadwyr) |
Pentref yng nghymuned Merthyr Mawr, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Llandudwg[1] (Saesneg: Tythegston).[2] Mae'r pentref yn gartref i Ystad Llandudwg, menter amaethu a phriodwedd hynafol 1,200 erw-[3] sy'n cynnwys bythynnod a thai i'w rhentu a stad ddiwydiannol sydd yn cynhyrchu bwyd ac ynni gwyrdd.
Daw enw'r plwyf o nawddsant yr eglwys, Sant Tudwg, â oedd un o ddisgyblion Sant Cennydd.[4] Ei enw yn Saesneg yw Tyhegston.
Mae tystiolaeth bod fila Rufeinig wedi'i adeiladu yn yr ardal ar un adeg. Mae olion o Oes yr Efydd wedi'u darganfod yn yr ardal hefyd.
Yn ystod adfeddiad Normanaidd iseldiroedd Morgannwg, cafodd y plwyf ei amsugno i diriogaeth Y Castellnewydd. Daeth Llandudwg yn is-faenor yn ystod y 13eg neu 14eg ganrif.[5]
Lleolir yn Ne Pen-y-bont ar Ogwr, 3.5 milltir i Orllewin y dref ar ochr gogleddol ffordd yr A4106. Mae gan y pentref, sy'n rhan o gymuned Merthyr Mawr, arwynebedd o 50 erw. Saif 24 milltir o Gaerdydd a 19 milltir o Abertawe. Mae Porthcawl a gorsaf reilffordd Pen-y-bont o fewn 3 milltir.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[6] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[7]
Roedd Llandudwg yn ran o etholaeth Senedd Ewrop Cymru hyd at Brexit.
Yn 2010, cafodd eglwys St Tudwg ei drosi yn swyddfeydd.[8] Mae dau adeilad rhestredig yn Llandudwg[9] yn cynnwys adeilad Gradd II* Tythegston Court.[10]
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre