Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.1201°N 4.3102°W |
Cod OS | SH469602 |
Cod post | LL54 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Pentref yng nghymuned Bontnewydd, Gwynedd, Cymru, yw Llanfaglan[1][2] ( ynganaid ). Saif yn ardal Arfon ar y ffordd arfordirol rhwng Caernarfon a Llandwrog ac ychydig i'r gogledd o Afon Gwyrfai. Saif yn hen gwmwd canoloesol Arfon Is Gwyrfai. Mae'n ffinio gyda phlwyf Llanbeblig; plwyf amaethyddol ei naws ydyw, gyda'r mwyafrif o'i drigolion ar wasgar mewn ffermydd, tai unigol a thyddynod.
Mae enw'r pentref a'r llan yn dod o enw sant: Baglan ap Dingad mab Dingad ap Nudd Hael (545)[3]. Preswyliai gyda'i frodyr yn Llancafarn ac aeth ar bererindod i Ynys Enlli gyda Sant Dyfrig. Ceir peth dryswch rhwng y Sant Baglan yma a Sant Baglan Ithel Hael.
Gwelir ôl chwyldro amaethyddol y 18g yn yr odyn calch a geir ar yr ochr orllewinol y plwyf. Ceir yma eglwys ganoloesol hynod iawn.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Siân Gwenllian (Plaid Cymru)[4] ac yn Senedd y DU gan Hywel Williams (Plaid Cymru).[5]
Saif Eglwys Sant Baglan (SH 455 606) gryn bellter o'r pentref presennol, bron 2 km i'r gorllewin ger bae'r Foryd, ynghanol cae, heb unrhyw adeilad arall yn agos ati. Mae'r rhan hynaf o'r adeilad presennol yn dyddio o'r 13g neu'r 14g, a'r capel deheuol yn dyddio o'r 16g, ac yn ystod 1801-04, ymestynwyd y rhan orllweinol i'r hyn sydd yno heddiw.
Uwchlaw'r drws gogleddol mae carreg fedd o ddiwedd y 5ed neu ddechrau'r 6g a'r arysgrif FILI LOVERNII ANATEMORI neu "(Carreg) Anatemorus fab Loverinus" arni. Ond y geiriad cywir fyddai: 'Anatemori Fili Lovernii' ("(Carreg) Lovernii fab Anatemorus"), gan fod y garreg ar ei hochr yn y safle presennol.
Yma hefyd mae dwy garreg fedd o'r 13g ond heb enwau arnynt. Ceir llun llong ar un ohonynt, sydd o bosib yn dynodi bedd llongwr.
Ceir bedyddfaen 7 ochr yn yr eglwys sy'n dyddio o'r 14g, un o ddim ond saith drwy Gymru[6]. Mae hyn yn dynodi'r saith sacrament, ac o bosib fod yna gerfluniau wedi bod arni rywdro.
Ceir meinciau pren yn dyddio o'r 18g: rhai yn weddol foethus ym mherchnogaeth y tirfeiddianwyr lleol, a meinciau digon syml ar gyfer y bobl gyffredin. Gwelir enw'r perchnogion wedi eu nodi ar y rhan fwyaf. Mae'r un gyda I,D ac M arni yn pethyn i David a Margaret Jones, I yn yr achos hwn yn golgyu Iohannes yn Lladin. Ar y sedd yma, gwelir fod eu mab Richard Jones pan oedd tua 10 oed, wedi naddu ei enw ar sedd y teulu (1784). Gwelir enw'r teulu ar y meinciau llai, dyma ble roedd y morwynion a'r gweision yn eistedd.
Yn y cae nesaf i'r gogledd, sef "Cae Ffynnon", wrth waelod y bryn ble mae'r coed, mae safle hen Ffynnon Faglan, ond fe'i chwalwyd tua 2011 ac nid oes olion ohoni i'w gweld, bellach. Ar un adeg credid y gallai iachau anhwylderau.[7]
Mae'r eglwys fel arfer yn agored. Ar benwythnos cyntaf mis Medi fel rhan o weithgareddau Drysau Agored Treftadaeth Ewrop, a bydd rhywun yno i' dywys ymwelwyr o gwmpas, yn Gymraeg. Os am ymweld a'r eglwys yn ffurfiol fel grwp, gellir cysylltu gyda pherchnogion yr eglwys, sef Friends of Friendless Churches drwy eu gwefan, neu gydag Ifor Williams yn lleol.
Dyma fel yr oedd Ffynnon Baglan rai blynyddoedd yn ôl.
Yn anffodus, mae'r ffermwr wedi ei thynnu oddi yna’n gyfangwbl heddiw. Fe gyfeirid ati fel Ffynnon Binnau (SH 46014 60847)[8]
Dyma esboniad o darddiad yr enw Ffynnon Binnau:
Cafwyd storm gofiadwy yn Rhagfyr 2013 (gweler yr hanes yma 2013) gyda manylion o Lanfaglan wedi eu cofnodi. Wedi'r storm, prynhawn 5 Rhagfyr, fe gaewyd ffordd traeth Y Foryd, Llanfaglan gan y Cyngor. Yn ôl y pysgotwr Tony Lovell o Gaernarfon, roedd y llanw uchaf y diwrnod hwnnw yn 5.7 medr, ond efo'r "forcing tide" o'r de orllewin golygai bod y llanw yn codi bron i fedr arall. Cyflymder uchaf y gwynt yn Llanfaglan oedd 38 m.y.a. tua 13:00, diolch i'r drefn fe fethom ni’r gwaethaf.[10]
Dinas
Bangor
Trefi
Abermaw · Y Bala · Bethesda · Blaenau Ffestiniog · Caernarfon · Cricieth · Dolgellau · Harlech · Nefyn · Penrhyndeudraeth · Porthmadog · Pwllheli · Tywyn
Pentrefi
Aberangell · Aberdaron · Aberdesach · Aberdyfi · Aber-erch · Abergwyngregyn · Abergynolwyn · Aberllefenni · Abersoch · Afon Wen · Arthog · Beddgelert · Bethania · Bethel · Betws Garmon · Boduan · Y Bont-ddu · Bontnewydd (Arfon) · Bontnewydd (Meirionnydd) · Botwnnog · Brithdir · Bronaber · Bryncir · Bryncroes · Bryn-crug · Brynrefail · Bwlchtocyn · Caeathro · Carmel · Carneddi · Cefnddwysarn · Clynnog Fawr · Corris · Croesor · Crogen · Cwm-y-glo · Chwilog · Deiniolen · Dinas, Llanwnda · Dinas, Llŷn · Dinas Dinlle · Dinas Mawddwy · Dolbenmaen · Dolydd · Dyffryn Ardudwy · Edern · Efailnewydd · Fairbourne · Y Felinheli · Y Ffôr · Y Fron · Fron-goch · Ffestiniog · Ganllwyd · Garndolbenmaen · Garreg · Gellilydan · Glan-y-wern · Glasinfryn · Golan · Groeslon · Llanaber · Llanaelhaearn · Llanarmon · Llanbedr · Llanbedrog · Llanberis · Llandanwg · Llandecwyn · Llandegwning · Llandwrog · Llandygái · Llanddeiniolen · Llandderfel · Llanddwywe · Llanegryn · Llanenddwyn · Llanengan · Llanelltyd · Llanfachreth · Llanfaelrhys · Llanfaglan · Llanfair · Llanfihangel-y-Pennant (Abergynolwyn) · Llanfihangel-y-Pennant (Cwm Pennant) · Llanfihangel-y-traethau · Llanfor · Llanfrothen · Llangelynnin · Llangïan · Llangwnadl · Llwyngwril · Llangybi · Llangywer · Llaniestyn · Llanllechid · Llanllyfni · Llannor · Llanrug · Llanuwchllyn · Llanwnda · Llanymawddwy · Llanystumdwy · Llanycil · Llithfaen · Maentwrog · Mallwyd · Minffordd · Minllyn · Morfa Bychan · Morfa Nefyn · Mynydd Llandygái · Mynytho · Nantlle · Nantmor · Nant Peris · Nasareth · Nebo · Pant Glas · Penmorfa · Pennal · Penrhos · Penrhosgarnedd · Pen-sarn · Pentir · Pentrefelin · Pentre Gwynfryn · Pentreuchaf · Pen-y-groes · Pistyll · Pontllyfni · Portmeirion · Prenteg · Rachub · Y Rhiw · Rhiwlas · Rhos-fawr · Rhosgadfan · Rhoshirwaun · Rhoslan · Rhoslefain · Rhostryfan · Rhos-y-gwaliau · Rhyd · Rhyd-ddu · Rhyduchaf · Rhydyclafdy · Rhydymain · Sarnau · Sarn Mellteyrn · Saron · Sling · Soar · Talsarnau · Tal-y-bont, Abermaw · Tal-y-bont, Bangor · Tal-y-llyn · Tal-y-sarn · Tanygrisiau · Trawsfynydd · Treborth · Trefor · Tre-garth · Tremadog · Tudweiliog · Waunfawr