Math | cymuned, pentrefan |
---|---|
Poblogaeth | 311 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5543°N 3.0961°W |
Cod SYG | W04000824 |
Cod OS | ST241845 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au y DU | Ruth Jones (Llafur) |
Pentref, plwyf a chymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd yw Llanfihangel-y-fedw[1] (Saesneg: Michaelstone-y-Fedw). Roedd y boblogaeth yn 365 yn 2001, gydag 17.65% yn medru Cymraeg, y ganran uchaf yng Nghasnewydd.
Saif i'r gorllewin o ddinas Casnewydd, heb fod ymhell o'r ffin â dinas Caerdydd ac â bwrdeistref sirol Caerffili. Ffurfir y ffin gan Afon Rhymni yn y gorllewin a'r draffordd A48(M) yn y de. Cysegrir eglwys y plwyf i sant Mihangel.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[2][3]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]
Dinas
Casnewydd
Pentrefi
Allteuryn · Basaleg · Caerllion · Langstone · Llanfaches · Llanfihangel-y-fedw · Llansanffraid Gwynllŵg · Llan-wern · Pen-hŵ · Y Redwig · Trefesgob · Trefonnen · Tŷ-du