Llangoedmor

Llangoedmor
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,128, 1,136 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,930.48 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0811°N 4.6326°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000381 Edit this on Wikidata
Cod OSSN175465 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan a phlwyf yn ne-ddwyrain Ceredigion yw Llangoedmor[1] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif y pentref 1 filltir i'r dwyrain o dref Aberteifi ar y lôn B4570 ar lan ffrwd fechan sy'n llifo i aber Afon Teifi gerllaw.

Sant Cynllo yw nawddsant yr eglwys. Atgyweirwyd yr hen eglwys yn sylweddol yn 1860. Er mai pentref bychan yw Llangoedmor heddiw, ar un adeg roedd gan ei chlas awdurdod dros ardal ehangach, yn cynnwys Aberteifi, Mwnt a Llechryd.

Ceir Ffynnon Cynllo yn y plwyf, enwog am iachau'r crudcymalau, yn ogystal â 'Cerwyni Cynllo' ar lan Afon Teifi; ogofâu â'r dŵr yn "berwi" ynddynt. Ceir gwaith amddiffyn o bridd a elwir Cynllo Faes.

Ceir llawer o straeon am fywyd mân-fonheddwyr Cymreig Plas Llangoedmor yn llyfr H. M. Vaughan The South Wales Squires (llyfr a gafodd ddylanwad mawr ar Saunders Lewis).

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[2] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[3]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangoedmor (pob oed) (1,128)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangoedmor) (544)
  
49.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangoedmor) (649)
  
57.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Llangoedmor) (245)
  
46.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 15 Hydref 2024
  2. Gwefan Senedd Cymru
  3. Gwefan Senedd y DU
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • T. D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Cyhoeddiadau Glyn Dŵr, 2000)
  • T. I. Ellis, Crwydro Ceredigion (Llyfrau'r Dryw, 1953)