Math | pentrefan |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Pen-y-bont ar Ogwr |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5869°N 3.6379°W |
Cod OS | SS866888 |
AS/au Cymru | Sarah Murphy (Llafur) |
AS/au y DU | Stephen Kinnock (Llafur) |
Pentref a phlwyf yng nghymuned Llangynwyd Ganol, bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Llangynwyd (a Llangynwyd Isaf). Saif tua 2 filltir i'r de o dref Maesteg. Bu'n rhan o gwmwd canoloesol Tir Iarll.
Yn y pentref ceir eglwys plwyf Llangynwyd, a sefydlwyd gan Sant Cynwyd, yn ôl traddodiad. Gerllaw ceir adfeilion Castell Llangynwyd.
Cedwir traddodiad y Fari Lwyd o hyd yn Llangynwyd, ar 31 Rhagfyr. Un o'r ardal yma oedd y bardd Rhisiart Iorwerth a elwir hefyd yn Rhisiart Fynglwyd.
Roedd hen bentref Llangynwyd, "Llan Uchaf", yn gartref i Ann Maddocks, "Y Ferch o Gefn Ydfa", a'r bardd Wil Hopcyn, y dywedir iddo gyfansoddi'r gân Bugeilio'r Gwenith Gwyn.
Ganed yr hynafiaethydd Thomas Christopher Evans (1846 - 1918) yn y plwyf.
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae gan y pentref boblogaeth o 2,843. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Trefi
Maesteg · Pen-coed · Pen-y-bont ar Ogwr · Pontycymer · Porthcawl
Pentrefi
Abercynffig · Abergarw · Betws · Blaengarw · Bracla · Bryncethin · Brynmenyn · Caerau · Cefncribwr · Cwmogwr · Cynffig · Drenewydd yn Notais · Gogledd Corneli · Heol-y-cyw · Llangeinwyr · Llangrallo · Llangynwyd · Melin Ifan Ddu · Merthyr Mawr · Mynyddcynffig · Nant-y-moel · Notais · Pen-y-fai · Y Pîl · Price Town · Sarn · Ton-du · Trelales · Ynysawdre