Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Abertawe |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.601°N 4.273°W |
Cod OS | SS4291 |
Cod post | SA3 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mike Hedges (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Pentref bychan a phlwyf eglwysig yng nghymuned Llangynydd, Llanmadog a Cheriton, Sir Abertawe, Cymru, yw Llangynydd[1] ( ynganiad ) (amrywiad: Llangenydd; Seisnigiad: Llangennith).[2] Fe'i lleolir ar benrhyn Gŵyr ger Bae Rhosili, tua 13 milltir i'r gorllewin o ddinas Abertawe.
Ceir nifer fechan o dai ar wasgar ac un tafarn, sef y Kings Head. Gorwedd y pentref ar groesffordd wledig; mae Moor Lane yn arwain i barc carafanau ger Bae Rhosili i'r gorllewin ac mae Burrows Lane yn arwain i Fae Broughton, i'r gorllewin. I'r dwyrain mae ffordd arall yn cysylltu'r pentref â Llanrhidian.
Mae eglwys Llangynydd yn hynafol. Yn ôl traddodiad fe'i sefydlwyd gan Sant Cynydd (neu Cenydd). Ceir Maen Cynydd yn yr eglwys; carreg o dywodfaen gyda chroes Geltaidd wedi'i cherfio arni. Yn ôl un traddodiad mae'n dynodi man claddu'r sant. Gerllaw ceir Ffynnon Gynydd sydd gyda charreg hynafol arall gyda chroes arno yn gorwedd drosti i gadw ei dŵr yn lân.[3]
Philip Tanner (1862 - 1950), ceidwad caneuon a dawnsiau gwerin.[4]
Dinas
Abertawe
Trefi
Casllwchwr · Clydach · Gorseinon · Pontarddulais · Treforys · Tre-gŵyr
Pentrefi
Burry Green · Cadle · Crofty · Dyfnant · Fforest-fach · Garnswllt · Y Gellifedw · Y Glais · Llandeilo Ferwallt · Llanddewi · Llangyfelach · Llangynydd · Llanilltud Gŵyr · Llanmorlais · Llanrhidian · Llan-y-tair-mair · Y Mwmbwls · Nicholaston · Oxwich · Pen-clawdd · Pengelli · Pennard · Pentre Poeth · Pont-lliw · Port Einon · Reynoldston · Rhosili · Sgeti · Y Crwys · Ynysdawe · Ynysforgan · Ystumllwynarth