Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod unedol) |
Poblogaeth | 11,954 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.23°N 2.73°W |
Cod SYG | E04000800 |
Cod OS | SO496591 |
Cod post | HR6 |
Tref hanesyddol a phlwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Llanllieni (Saesneg: Leominster).[1] Fe'i lleolir hanner ffordd rhwng Henffordd i'r de a Llwydlo i'r gogledd, ar groesffordd ffyrdd yr A49 a'r A44. Y dref fwyaf yn Swydd Henffordd ydy Llanllieni: yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil Llanllieni boblogaeth o 11,691.[2]
Saif y dref mewn dyffryn ar lan Afon Llugwy. Am ganrifoedd bu'n ganolfan bwysig i'r diwydiant gwlân gyda llawer o gynnyrch gwlân canolbarth Cymru, o'r 13g ymlaen, yn mynd yno i gael ei brosesu. Mae'r wlad o gwmpas yn enwog am ei berllanau afalau seidr. Ceir nifer o dai hanesyddol yn y dref gan gynnwys Eglwys y Priordy, adeilad Normanaidd sy'n dyddio i ddechrau'r 12g.
Yn ôl cofnod yng Cronicl yr Eingl-Sacsoniaid, arweiniodd Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd, gyrch ar Lanllieni yn haf 1052 a arweiniodd at Frwydr Llanllieni, rhwng y Cymry a byddin o Saeson a Normaniaid. Cafodd y Cymry fuddugoliaeth ysgubol.
Chwech milltir i'r gogledd-orllewin o'r dref ymladdwyd Brwydr Mortimer's Cross ar 2 Chwefror 1461, un o'r brwydrau pwysicaf yn Rhyfeloedd y Rhosynnau. Collodd y Lancastriaid y dydd a ffoes Siasbar Tudur a'i nai Harri Tudur yn ôl i Sir Benfro ac i alltudiaeth yn Llydaw.
Dinas
Henffordd
Trefi
Bromyard · Kington · Ledbury · Llanllieni · Rhosan ar Wy