Llansilin

Llansilin
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth698, 682 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd4,743.38 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.8446°N 3.1759°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000320 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ209283 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRussell George (Ceidwadwyr)
AS/au y DUSteve Witherden (Llafur)
Map

Pentref, cymuned, a phlwyf eglwysig ym Mhowys, Cymru, ydy Llansilin.[1][2] Saif tua 6 milltir i'r gorllewin o Groesoswallt, yng Nglyn Ceiriog. Oherwydd i ardaloedd gweinyddol Cymru gael eu hail-drefnu sawl gwaith, roedd y capel yn Sir Ddinbych hyd 1974 ac yng Nghlwyd rhwng 1974 ac 1996. Erbyn heddiw, mae ym Mhowys, yn dilyn symud y ffin yn 1996.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]

Mae capel Llansilin wedi ei chysegru i Sant Silin. Mae'r rhan gynharaf o'r adeilad presennol yn dyddio i'r 13g, er bod capel ar y safle am gyfnod hir cyn hynny. Mae'r rhan fwyaf o'r adeilad yn dyddio i'r 15g. Dinistrwyd y clochdy gwreiddiol gan dân, ac adeiladwyd y clochdy presennol yn 1832. Cyflawnwyd gwaith adnewyddu yn ystod 1889/1890, ac ail-agorwyd y capel ym Mehefin 1890.

Eos Ceiriog

[golygu | golygu cod]

Treuliodd y bardd Huw Morus (Eos Ceiriog) (1622-1709) rhan helaeth ei oes ar fferm Pont-y-meibion yn y plwyf. Ceir cofeb iddo wedi'i gosod ym mur yr hen ffermdy. Am fod y ffermdy mewn tafod o'r plwyf sy'n ymestyn i blyfi cyfagos, arferai cerdded dros y bryn bob dydd Sul i addoli yn eglwys ei blwyf ei hun.[5]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansilin (pob oed) (698)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansilin) (184)
  
26.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansilin) (222)
  
31.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansilin) (82)
  
29.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 29 Rhagfyr 2021
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961).
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.