Math | pentrefan ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn, Tref Alaw ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.324°N 4.459°W ![]() |
Cod OS | SH363835 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentrefan yng nghymuned Tref Alaw, Ynys Môn, Cymru, yw Llantrisant[1][2] ( ynganiad ). Fe'i lleolir ar gyffordd wledig tua hanner ffordd rhwng Llanfaethlu i'r gorllewin a Llannerch-y-medd i'r dwyrain yng ngogledd-orllewin yr ynys, tua 8 milltir i'r dwyrain o Gaergybi. Mae'n blwyf eglwysig yn ogystal. Mae 138.4 milltir (222.7 km) o Gaerdydd a 221.4 milltir (356.3 km) o Lundain.
Cyfeiria'r enw at y ffaith fod eglwys y plwyf yn gysegredig i dri sant, sef Afan, Ieuan a Sannan.[3] Yn yr Oesoedd Canol roedd y llan yn rhan o gwmwd Llifon, cantref Aberffraw.[4]
Ar gwr gogleddol y pentref ceir Cors-y-bol, ardal o wlybtir a groesir gan ffrwd sy'n llifo i gronfa Llyn Alaw. Tua milltir i'r de ceir Llyn Llywenan.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[5] ac yn Senedd y DU gan Llinos Medi (Plaid Cymru).[6]
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele