Llaw anweledig (neu llaw gudd) yw'r term mewn economeg ac athroniaeth wleidyddol am y mecanwaith anweledig sy'n gyrru system marchnad rydd. Cafodd y term ei fachu a'r mecanwaith ei astudio yn wyddonol am y tro cyntaf gan yr economegydd Adam Smith (1723-1790). Byth ers hynny mae'n gysyniad canolog i economegwyr a gwleidyddion ceidwadol yn eu dadleuon o blaid marchnad rydd bur, heb ymyrraeth ynddi gan y wladwriaeth, sef polisi laissez-faire.
Cnewyllyn y ddamcaniaeth yw hyn: er bod cigydd yn gwerthu cig imi, fel cyfnewidiad rhydd, er mwyn gwneud elw i'w hun, a minnau'n prynu'r cig hwnnw cyn rhated â phosibl, y mae'r ddau ohonom ni'n cael lles o'r cyfnewidiad. Yn ei ddadansoddiad, arweiniodd hyn i Adam Smith ddadlau fod y farchnad rydd ei hun yn drefn sydd o les i bawb yn ddi-wahân ac sy'n digwydd ohono'i hun, yn ddigymell, fel petai fod rhyw law anweledig yn gweithredu, trwy gadwyn o filoedd o gyfnewidiadau heb i'r rhai sy'n cymryd rhan ynddynt feddwl dim am y canlyniadau.
Mewn athroniaeth gellid ystyried unrhyw drefn sy'n dod i fodoli yn ddigymell yn enghraifft o'r llaw anweledig, ac felly mae'r term yn cael ei gymhwyso gan rai athronwyr am ystod ehangach na materion economaidd yn unig.