Enghraifft o'r canlynol | dosbarth llenyddol |
---|---|
Math | gwaith llenyddol |
Dosbarth eang o lenyddiaeth, o bob ffurf a genre, a ysgrifennir gan fenywod yw llenyddiaeth fenywaidd. Ymdrinir yn academaidd â'r fath lenyddiaeth ar sail yr amcan taw profiad ar wahân yn ei hanfod i lenyddiaeth a ysgrifennir gan ddynion ydyw.[1]
Yn hanesyddol, dynion yw prif awduron canon y Gorllewin, a llenorion gwrywaidd a gâi'r lle blaenllaw ar draws y byd yn gyffredinol. Yn yr 20g, daeth nifer o feirniaid ac ysgolheigion i roi'r bai ar rywiaeth am anwybyddu llenorion benywaidd ac esgeuluso'u cyfraniadau. Fel maes penodol o astudiaethau llenyddol, cyhoeddir sawl cyfnodolyn academaidd, cynhelir symposia a seminarau, a chynigir cyrsiau ar lenyddiaeth fenywaidd gan brifysgolion, yn enwedig mewn gwledydd y Gorllewin.
Ffurf amlwg ar lenyddiaeth ffeministaidd ydy traddodiad y beirniad ffeministaidd, a ellir ei olrhain yn ôl i newyddiaduraeth Rebecca West (1892–1983) yn y 1910au. Dylanwadwyd yn gryf ar feirniadaeth ffeministaidd gan Virginia Woolf (1882–1941), yn enwedig ei hysgrif A Room of One's Own (1929), a'r llyfr Le deuxième sexe (1949) gan Simone de Beauvoir (1908–86). Aeddfedai'r traddodiad hwn yn sgil dyfodiad ffeministiaeth yr ail don yn y 1960au, yn enwedig yn Unol Daleithiau America, ac ymhlith prif awduron y to mae Mary Ellmann (1921–89) a Kate Millett (1934—2017). Canolbwyntia'r feirniadaeth hon yn gyntaf ar wreig-gasineb a stereoteipiau mewn llenyddiaeth gan ddynion, ac yn y 1970au datblygodd i drafod llenyddiaeth gan fenywod ac i lunio hanes llenyddol benywaidd.[2]
Ymgododd sawl carfan o feirniadaeth lenyddol ffeministaidd, ar y cyd â'r amryw ffurfiau ar ffeministiaeth—megis ffeministiaeth groenddu a ffeministiaeth lesbiaidd—a flodeuai yn ystod ail hanner yr 20g, yn canolbwyntio ar brofiadau a chyfraniadau mathau gwahanol o fenywod. Yn yr un modd, amrywia beirniadaeth ffeministaidd o ran ideoleg a methodoleg, gan gynnwys dulliau Marcsaidd, seicdreiddiol, ac ôl-adeileddol.