Llewelyn Wyn Griffith | |
---|---|
Wyn Griffith ym 1970 | |
Ganwyd | 30 Awst 1890 Llandrillo-yn-Rhos |
Bu farw | 27 Medi 1977 Bwrdeistref Fetropolitan Trafford |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd, gwas sifil, bardd, darlledwr |
Gwobr/au | CBE |
Roedd Llewelyn Wyn Griffith (30 Awst 1890 – 27 Medi 1977) yn was sifil, yn awdur, bardd a darlledwr a ysgrifennodd llawer am Gymru a'r diwylliant Cymreig trwy gyfrwng y Saesneg.
Ganwyd Wyn Griffith ar 30 Awst 1890 ym mhentref Glanwydden, Sir Ddinbych (ond yn Sir Conwy heddiw),[1] mab hynaf John Griffiths a Dorothy ei wraig.
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Blaenau Ffestiniog lle roedd ei dad yn athro cyn symud i Ysgol Ramadeg, Dolgellau ar benodiad ei dad yn brifathro.
Ym 1909 aeth i weithio i Gyllid y Wlad fel Serfiwr Trethi a Thollau yn Lerpwl, lle bu'n gwasanaethu hyd 1914. Ymunodd a'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar gychwyn y Rhyfel Mawr ym Medi 1914, gan ei ddyrchafu yn Is-gapten yn Ionawr 1915 ac yn Gapten yn Rhagfyr 1915. Gwasanaethodd ar faes y gad yn Ffrainc a Gwlad Belg. Fe ysgrifennodd am ei brofiadau yn y rhyfel mewn nifer o gerddi rhyfel ac yn ei lyfr enwocaf Up to Mametz (1931).
Wedi ei ollwng o'r fyddin ym 1919 aeth yn ôl i Gyllid y Wlad i weithio fel Arolygydd Trethi yn Lerpwl, Caer ac wedyn yn Llundain. Ym 1942 fe'i penodwyd yn Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus Bwrdd Cyllid y Wlad a dechreuodd ddarlledu rhaglenni radio am Dreth Incwm. O 1945-1952 bu'n Ysgrifennydd Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Hyfforddiant Cyllid y Wlad.
Roedd Wyn Griffith yn aelod amlwg o Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion gan wasanaethu fel Olygydd Cyhoeddiadau'r Gymdeithas o 1935 hyd ei farwolaeth[2]. Bu'n gadeirydd y National Books League; roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Cymreig Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr o 1949 i 1956 a hefyd yn is-gadeirydd y Cyngor.
Roedd yn ddarlledwr toreithiog a nodedig yn y Gymraeg a'r Saesneg, bu hefyd, am flynyddoedd lawer, yn aelod o dîm Cymru ar y rhaglen radio The Round Britain Quiz.
Yn ogystal ag Up to Mametz ysgrifennodd ail waith hunangofiannol Spring of Youth (1935), sy'n disgrifio ei blentyndod a'r traddodiadau Cymreig a fu'n gymorth iddo ddygymod fel gwas cyhoeddus alltud yn Lloegr. Cyhoeddodd dwy nofel, The Wooden Spoon (1937) a The Way Lies West (1945), a llyfr o farddoniaeth The Barren Tree (1945); llyfr i blant The Adventures of Pryderi (1962). Ym 1950 cyhoeddodd The Welsh llyfr oedd a'r bwriad o ddehongli diwylliant Cymreig i'r darllenydd Saesneg. Cyfieithodd dau o lyfrau Kate Roberts i'r Saesneg Te yn y Grug Tea in the Heather (1968) a Y Byw sy'n Cysgu The Living Sleep (1976).
Am ei wasanaeth milwrol yn ystod y Rhyfel Mawr dyfarnwyd iddo'r OBE milwrol a'r Croix de Guerre. Derbyniodd Doethuriaeth D.Lit er anrhydedd gan Brifysgol Cymru. Ym 1960 fe'i dyrchafwyd yn CBE a derbyniodd Medal Er Clod Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1970.
Fe briododd a Winifred Elizabeth Frimston ym 1915 bu iddynt dau fab John Frimston Wyn Griffith, a anwyd ym 1919 a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd ym 1942 a Hugh Alan Wyn Griffith a anwyd ym 1925. Bu farw Wyn Griffith ar 27 Medi 1977 yn Trafford, Swydd Gaer bu farw ei wraig ychydig dyddiau yn niweddarach.