Zeuzera pyrina | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Cossidae |
Genws: | Zeuzera |
Rhywogaeth: | Z. pyrina |
Enw deuenwol | |
Zeuzera pyrina Linnaeus, 1761 |
Gwyfyn sy'n perthyn i deulu'r Cossidae yn urdd y Lepidoptera yw llewpart, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy llewpartiaid; yr enw Saesneg yw Leopard Moth, a'r enw gwyddonol yw Zeuzera pyrina.[1][2] Mae i'w ganfod drwy Ewrop, ac yng Ngogledd America ers 1879: o Maine i Pennsylvania.
Mae'n eithaf hawdd adnabod y gwyfyn hwn oherwydd ei thoracs gwyn, ffyri efo 6 smotyn du arno. Mae ganddo adenydd gwyn hefyd gyda smotiau arnyn nhwythau. 35–60 mm ydy lled ei adenydd ac mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Mehefin a Medi, yn ddibynnol ar ei leoliad.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r llewpart yn lindysyn sy'n bwydo tu fewn i ganghennau coed a llwyni, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.