Llofruddiaeth John F. Kennedy

Llofruddiaeth John F. Kennedy
Yr Arlywydd Kennedy a'i wraig Jacqueline, a'r Llywodraethwr Connally a'i wraig Nellie yn y limwsîn arlywyddol ychydig funudau cyn y saethu.
Enghraifft o:political murder, assassination, magnicide, llofruddiaeth Edit this on Wikidata
Dyddiad22 Tachwedd 1963 Edit this on Wikidata
LladdwydEdit this on Wikidata
LleoliadDealey Plaza Edit this on Wikidata
Map
GwladwriaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
RhanbarthDallas Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ar 22 Tachwedd 1963, llofruddiwyd John F. Kennedy, 35ain Arlywydd Unol Daleithiau America, wrth iddo deithio mewn modurgad arlywyddol drwy Dealey Plaza, parc a sgwâr dinesig yng nghanol Dallas, Texas. Eisteddodd Kennedy mewn cerbyd heb do gyda'i wraig y Brif Foneddiges Jacqueline Kennedy, Llywodraethwr Texas John Connally, a Phrif Foneddiges Texas Nellie Connally, pan gafodd ei saethu'n farw gan Lee Harvey Oswald, cyn-Fôr Filwr, a oedd mewn adeilad cyfagos o'r enw Storfa Lyfrau Ysgol Texas. Gyrrodd y modurgad yn gyflym i Ysbyty Coffa Parkland, ac yno datganwyd Kennedy yn farw oddeutu 30 munud wedi'r saethu. Cafodd Connally ei anafu hefyd yn yr ymosodiad, ond gwellodd. Olynwyd Kennedy yn arlywydd gan ei is-arlywydd, Lyndon B. Johnson.

Wedi'r llofruddiaeth, dychwelodd Oswald i'w gartref i nôl gwn arall, ac yn fuan wedyn fe saethodd yr heddwas J. D. Tippit yn farw. Tua 70 munud wedi'r saethu yn Dealey Plaza, cafodd Oswald ei arestio gan Adran Heddlu Dallas a'i gyhyddo dan gyfraith daleithiol Texas o lofruddio Kennedy a Tippit. Am 11:21 y bore ar 24 Tachwedd 1963, wrth i gamerâu teledu ffilmio Oswald yn cael ei symud drwy islawr Pencadlys Heddlu Dallas, fe'i saethwyd yn farw gan Jack Ruby, rheolwr clwb nos lleol. Cludwyd Oswald i Ysbyty Coffa Parkland, ac yno y bu farw. Cafwyd Ruby yn euog o lofruddio Oswald, er i'r rheithfarn gael ei ddymchwel gan lys apêl, a bu farw Ruby yn y carchar ym 1967 tra'n aros am ail dreial.

Penodwyd Comisiwn Warren i ymchwilio i lofruddiaeth Kennedy, ac wedi 10 mis, daethant i'r casgliad mai Oswald oedd yr unig un yn gyfrifol am ladd yr arlywydd, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth i ddangos Oswald neu Ruby yn rhan o gydgynllwyn. Y dyn busnes Clay Shaw oedd yr unig berson i gael ei ddwyn i brawf am lofruddiaeth Kennedy, a hynny gan Jim Garrison, Erlynydd Sirol New Orleans, ym 1967; cafwyd Shaw yn ddieuog. Byddai ymchwiliadau diweddarach gan gyrff ffederal—gan gynnwys Comisiwn Rockefeller (1975) a Phwyllgor Seneddol Church (1975)—yn cytuno â dyfarniadau cyffredinol Adroddiad Warren. Fodd bynnag, ym 1979 cyhoeddodd Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cynrychiolwyr ar Fradlofruddiaethau (HSCA) yr oedd yn debygol i Kennedy "gael ei fradlofruddio o ganlyniad i gydgynllwyn". Ni enwodd yr HSCA gydgynllwynwyr posib, ond daeth i'r casgliad bod "tebygolrwydd uchel i ddau ddyn â gynnau saethu ar yr arlywydd", yn seiliedig yn bennaf ar recordiad "Dictabelt" o'r heddlu, tystiolaeth a ddadbrofwyd yn ddiweddarach gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau.

Mae llofruddiaeth Kennedy o hyd yn destun trafod a phwnc llosg, ac wedi esgor ar nifer o ddamcaniaethau cydgynllwyniol a theorïau amgen. Yn ôl arolygon o'r cyhoedd, mae mwyafrif o Americanwyr yn credu yr oedd cydgynllwyn i ladd yr arlywydd. Câi'r llofruddiaeth effaith ddofn ar gymdeithas yr Unol Daleithiau, ac hon oedd y cyntaf o bedair bradlofruddiaeth nodedig yn y wlad yn ystod y 1960au—fe'i olynwyd gan lofruddiaethau Malcolm X ym 1965, a Martin Luther King, Jr. a Robert F. Kennedy (brawd John F. Kennedy) ym 1968. Kennedy oedd y pedwerydd arlywydd Americanaidd i gael ei lofruddio, ar ôl Lincoln, Garfield, a McKinley, a'r un olaf i farw yn y swydd.

Trafodaeth gyfoes

[golygu | golygu cod]

Mae'r cwestiwn o bwy saethodd Kennedy a pham yn un sydd wedi bod yn bwnc trafod ers y diwrnod hanesyddol yn 1963. Ceir myrdd o gyhoeddiadau print a rhaglenni teledu. Ceir hefyd podlediadau gan gynnwys ar gyfres boblogaidd 'The Rest is History' yn ystod hydref 2023.[1]

Darllen pellach

[golygu | golygu cod]
  • Vincent Bugliosi, Reclaiming History: The Assassination of President John F. Kennedy (Efrog Newydd: W. W. Norton & Co., 2007).
  • David Kaiser, The Road to Dallas: The Assassination of John F. Kennedy (Cambridge, Massachusetts: Harvard University Press, 2008).
  • Donald Byron Thomas, Hear No Evil: Social Constructivism and the Forensic Evidence in the Kennedy Assassination (Efrog Newydd: Mary Ferrell Foundation Press, 2010).
  • Øyvind Vågnes, Zaprudered: The Kennedy Assassination Film in Visual Culture (Austin, Texas: University of Texas Press, 2011).
  1. "The Mystery is Solved (part 7)". The Rest is History. Cyrchwyd 12 Rhagfyr 2023.