Llong ofod

Llong ofod
Mathcerbyd Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscerbyd lansio, llong ofod Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae cerbyd gofod neu'n draddodiadol llong ofod yn fath o gerbyd sy'n cael ei bweru gan roced er mwyn teithio'r gofod a chludo lloerennau di-griw neu bobl rhwng arwyneb y Ddaear a'r gofod allanol.

Roedd y cerbydau gofod, neu 'rocedi' fel y cawsant eu galw, yn cael eu defnyddio un waith yn unig, hyd nes y crewyd yr wennol ofod a ddefnyddid dro ar ôl tro. Gellir eu dosbarthu'n ddau fath, felly: llongau ofod un-defnydd a llongau ofod amlddefnydd. Yn dechnegol, y system a yrrai'r cerbyd oedd y "roced", y peiriant, ond defnyddid y gair i olygu'r cerbyd cyfan. Roedd y priflwyth (payload) yn gymharol fach o'i gymharu a gweddil y cerbyd (y roced a'r tanciau tanwydd).[1][2]

Dull arall posib, efallai, o deithio i'r gofod: Y Lifft Gofod

Bathwyd y term "llong ofod" (neu "long roced"; rocket ship) yn gyntaf mewn ffuglen wyddonol tebyg i 'Flash Gordon' yn yr 20g.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Nofelau Cymraeg

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Expendable Launch Vehicle Investigations - Space Flight Systems". Space Flight Systems (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-20. Cyrchwyd 2016-02-09.
  2. Spudis, Paul D. "Reusable Launch Vehicles and Lunar Return". Air & Space Magazine. Cyrchwyd 2016-02-09.