Y faner genedlaethol a chwifir gan longau sifil (masnachol ac eraill) yw lluman sifil.
Gall y llumanau sifil sy'n wahanol i'r faner genedlaethol cael eu rhannu i bum categori.
Dyma faneri cochion sydd, gan amlaf, gyda'r faner genedlaethol briodol neu Faner yr Undeb yn y canton, yn dilyn dyluniad y Lluman Coch Prydeinig. Mae tiriogaethau tramor Prydeinig naill ai'n defnyddio'r Lluman Coch plaen neu Luman Coch gyda'r arfbais drefedigaethol briodol yn y fly.
Mae gan rai gwledydd llumanau sifil sydd yn wahanol iawn i'r faner genedlaethol.
Albania | Israel | Lwcsembwrg | Malta | Singapôr |
Cafodd y mwyafrif o'r arwyddluniau yma eu hychwanegu i wahaniaethu rhwng y lluman a baneri tebyg gwledydd eraill.
Colombia | Yr Eidal | El Salvador | Moroco[4] | Gwlad Pwyl | Saudi Arabia | Gweriniaeth Tsieina[5] |
Mewn nifer o wledydd (yn bennaf America Ladin) mae yna dau fersiwn o'r faner, un syml (gan amlaf yn rhesog) ac un goethach gyda'r arfbais genedlaethol. Defnyddir yr un symlach fel lluman sifil (ac mewn nifer o achosion fel baner sifil), a defnyddir y fersiwn â'r arfbais yn bennaf gan y llywodraeth a'r lluoedd milwrol. Yn Sbaen mae'r faner heb yr arfbais dim ond ar gyfer defnydd sifil; defnyddir y faner genedlaethol fel lluman sifil.[6]
Yr Almaen | Awstria | Bolivia | Costa Rica | Gweriniaeth Dominica | Ecuador |
Guatemala | Haiti | Periw | Sbaen | Venezuela |
Mae nifer o gyn-drefedigaethau Prydeinig yn defnyddio 1:2 fel cyfrannedd eu llumanau, ond 3:5 ar gyfer baneri ar dir. Mae hyn i'w wrthdroi yng ngwledydd y gyn Iwgoslafia: llumanau yn 2:3 a baneri ar dir yn 1:2.
Croatia | Grenada | Guyana | Slofenia | Y Swistir[7] | Trinidad a Thobago |