Llychlys y calch Cololejeunea calcarea | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Porellales |
Teulu: | Lejeuneaceae |
Genws: | Cololejeunea |
Rhywogaeth: | C. calcarea |
Enw deuenwol | |
Cololejeunea calcarea |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Llychlys y calch (enw gwyddonol: Cololejeunea calcarea; enw Saesneg: rock pouncewort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Porellales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru, gogledd Lloegr, drwy'r Alban ac yn Iwerddon.
Planhigyn bychan iawn yw Llychlys y calch, gyda'i goesynnau bychain yn llai na 5 mm o hyd a 0.25–0.7 mm o led. Mae'r dail yn felynwyrdd llachar ac mae'n tyfu mewn sypiau bach. Yn aml ni ellir eu gweld heb archwiliad agos gyda chwyddwydr. Mae'r dail yn llai na 0.5 mm o hyd a lled, yn dod i bwynt ar y blaen ac mae'r llabed yn chwyddedig.[1]
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[2] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.