Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 10 g |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Llyfr Dèir (Gaeleg: Leabhar Dhèir; Saesneg: Book of Deer) (Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt, MS.ii.6.32 ) yn Llyfr o'r Efengylau a ysgrifennwyd mewn Lladin.[1] Mae'r llyfr yn dyddio o’r 10fed ganrif. Mae'n cynnwys nodiadau ymyl y ddalen mewn Lladin, yr Hen Wyddeleg a Gaeleg yr Alban sy'n dyddio o'r 12fed ganrif. Mae'n cynnwys yr ysgrifennu Gaeleg cynharaf sydd wedi goroesi o'r Alban.[2]
Y mae tarddiad y llyfr yn ansicr, ond y mae'n rhesymol tybio bod y llawysgrif yn Dèir, Swydd Aberdeen, yr Alban, pan wnaed y nodiadau ymyl y ddalen., Mae'n bosibl mai dyma'r llawysgrif hynaf sydd wedi goroesi yn yr Alban (er mae'n bosib mae Llyfr Kells bia'r anrhydedd honno), Mae'n nodedig gan iddi darddu, o bosibl, yn yr hyn a ystyrir yn awr fel Iseldiroedd yr Alban.
Mae'r llawysgrif yn perthyn i'r categori o lyfrau efengyl poced Gwyddelig, a gynhyrchwyd at ddefnydd preifat yn hytrach nag at wasanaeth eglwysig . Er bod y llawysgrifau tebycaf eu arddull i Llyfr Dèir yn rhai Gwyddelig, mae'r rhan fwyaf o ysgolheigion yn dadlau o blaid tarddiad Albanaidd. Mae'n debyg bod y llawysgrif wedi'i ysgrifennu gan sgrifellwr Gwyddelig yn yr Alban. Mae gan y llyfr 86 ffolio; mae'r dalenau yn mesur 157 mm wrth 108 mm, gyda ardal y testun yn 108 mm wrth 71 mm. Mae wedi'i ysgrifennu ar felwm mewn inc brown ac mae mewn rhwymiad modern.
Bu Llyfr Dèir yn eiddo i Lyfrgell Prifysgol Caergrawnt er 1715, pan gyflwynwyd llyfrgell John Moore, Esgob Ely, i Brifysgol Caergrawnt gan y Brenin Siôr I.[3] Cyn hyn mae'n debygol fod y llyfr ym meddiant Thomas Gale, prifathro Ysgol St Paul, Llundain. Ni wyddys sut daeth y llawysgrif i fod yn llyfrgell yr Esgob Moore, ond mae rhai yn amau ei fod wedi ei ysbeilio yn ystod Rhyfeloedd Annibyniaeth yr Alban ar ddiwedd y 13eg ganrif i ddechrau'r 14eg ganrif.
Ceir yn y testun Lladin holl destun Efengyl Ioan, rhannau o Efengylau Mathew, Marc a Luc, rhan o Ffurfwasanaeth Ymweliad y Cleifion, a Chredo'r Apostolion. Mae'n gorffen gyda choloffon yn yr Hen Wyddeleg . Mae testunau'r Efengyl yn seiliedig ar y Fwlgat ond yn cynnwys rhai hynodion sy'n unigryw i lyfrau Efengyl o'r Iwerddon. Ysgrifennwyd y testun gan ddefnyddio llythrennau bach Lladin yn yr arddull Gwyddeleg, yn ôl pob tebyg gan un sgrifellwr. Er bod testun a sgript y llawysgrif yn ei gosod yn sicr yn nhraddodiad yr Efengyl Boced Wyddelig, mae ysgolheigion wedi dadlau mai yn yr Alban y cynhyrchwyd y llawysgrif. [4]
Mae saith testun yng Ngaeleg yr Alban wedi'u hysgrifennu mewn bylchau gwag o amgylch y prif destun. Mae'r nodiadau ymylol hyn yn cynnwys hanes sefydlu'r fynachlog yn Dèir gan Sant Colum Cille a Sant Drostan, cofnodion o bum grant tir i'r fynachlog, a chofnod o imiwnedd rhag talu rhai dyledion a roddwyd i'r fynachlog. Ceir hefyd gopi o weithred Ladin a roddwyd i'r fynachlog gan Ddafydd I o'r Alban yn amddiffyn y fynachlog rhag "pob gwasanaeth lleyg ac uniondeb amhriodol". Ysgrifennwyd y testunau Gaeleg gan gynifer â phum llaw wahanol. Mae'r rhain yn cynrychioli'r defnydd cynharaf sydd wedi goroesi o'r Aeleg yn yr Alban ac maent yn bwysig oherwydd y goleuni y maent yn ei daflu ar ddatblygiad Gaeleg yn yr Alban.
Mae nifer o wallau yn Llyfr Dèir. Yn achau Iesu yn Efengyl Luc, mae'n cofnodi Seth fel y dyn cyntaf a thaid Adda. [5]
Mae copi digidol o Lyfr Dèir ar gael ar wefan Llyfrgell Prifysgol Caergrawnt[4]
Dychwelwyd y llyfr i'r Alban yn 2022 i'w harddangos yn Oriel Gelf Aberdeen fel rhan o Flwyddyn Straeon yr Alban.[6]