Canolfan data Utah, UDA, a adnabyddir hefyd dan yr enw llawn: Intelligence Community Comprehensive National Cybersecurity Initiative Data Center.Archifdy Data Prifysgol Essex
Mae llyfrgell ddata, archif data, neu ystorfa ddata yn gasgliad o setiau data ar gyfer defnydd eilaidd mewn ymchwil. Fel rheol, mae'r llyfrgell ddata'n rhan o sefydliad academaidd, corfforaethol, gwyddonol, meddygol, llywodraethol, ac ati, a sefydlwyd ar gyfer archifo data ymchwil ac i wasanaethu defnyddwyr y sefydliad hwnnw.
Mae'r llyfrgell ddata'n tueddu i gadw casgliadau data lleol ac yn darparu mynediad iddynt trwy wahanol ddulliau: CD- a DVD-ROMiau yn y gorffennol, gweinydd canolog lawrlwytho'r wybodaeth, erbyn y 2010au. Gall llyfrgell ddata hefyd danysgrifio i adnoddau data trwyddedig, global i'w hymchwilwyr eu defnyddio. Ystyrir y llyfrgell ddata hefyd yn archif data os yw'n cyrraedd y meincnodau canlynol:
mae daliadau'r casgliad yn unigryw,
cynigir gwasanaethau cadwraeth hirdymor, ac
mae'n gwasanaethu cymuned ehangach (fel y mae archifau data cenedlaethol yn ei wneud).
The NCAR Research Data Archive: http://rda.ucar.edu; Computational and Information Systems Laboratory at the National Center for Atmospheric Research in Boulder, Colorado.
Clubb, J., Austin, E., and Geda, C. "'Sharing research data in the social sciences.'" In Sharing Research Data, S. Fienberg, M. Martin, and M. Straf, Eds. National Academy Press, Washington, D.C., 1985, 39-88.
Geraci, D., Humphrey, C., and Jacobs, J. Data Basics. Canadian Library Association, Ottawa, ON, 2005.