Llyn Tekapo | |
---|---|
Llyn Tekapo | |
Lleoliad Llyn Tekapo. | |
Lleoliad | Mackenzie District, Canterbury Region, Ynys y De |
Cyfesurynnau | 43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°ECyfesurynnau: 43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°E |
Prif fewnlif | Afon Godley (i'r gog.), Afon Macauley (i'r gog.), Afon Mistake (gor.), Afon Cass River (gor.)[1] |
Prif afon | Afon Tekapo |
Aber neu fasn | 1,463 km2 (565 mi sgw)[1] |
Aber neu fasn | Seland Newydd |
Hyd | 27 cilometr (17 milltir)[1] |
Lled | 6 km (3.7 mi) (uchafswm), 3.5 km (2.2 mi) (cymedr)[1] |
Arwynebedd | 87 km2 (34 mi sgw) (haf), 82 km2 (32 mi sgw) (gaeaf),[1] |
Dyfnder cyfartalog | 69 m (226 tr)[1] |
Dyfnder (mwyaf) | 120 m (390 tr)[1] |
Cyfaint y dŵr | 6km³ (4.9×106 acr·tr)[1] |
Uchder lefel y dŵr | 710 m (2,330 tr) |
Anheddiad/au | Lake Tekapo (tref) |
Ffynhonnell | [1] |
Saif Llyn Tekapo ar Ynys y De, Seland Newydd; mae'n 83 km sgwâr (32 milltir sg) ac 710 metr (2,330 tr) yn uwch na lefel y môr. Llifa Afon Godley o gyfeiriad y gogledd i'r llyn, dyma afon sydd a'i tharddiad yn Alpau Deheuol Seland Newydd (Māori: Kā Tiritiri-o-te-Moana). Mae'r llyn yn rhan o 'Warchodfa Wybren Dywyll' UNESCO ac yn atyniad twristaidd poblogaidd gyda nifer o westai mawr yn y dref a elwir hefyd yn 'Llyn Tekapo'.[2].
At lan y llyn saif Eglwys y Bugail Da,[3] a adeiladwyd ym 1935 ac a gynlluniwyd gan R.S.D.Harman. Gerllaw ceir 'Cerflun y Ci Defaid', a gynlluniwyd gan Elliott Innes o Kaikoura.
Mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i orsafoedd pŵer Tekapo 'A' a 'B'.
Yn 1938 cychwynwyd ar y gwaith o greu pwerdy i gynhyrchu trydan o ynni'r dŵr; gohiriwyd y gwaith yn 1942 oherwydd y Rhyfel ond cwbwlhawyd "Tekapo A" yn 1951.
Dargyfeirir llif yr afon, bellach, drwy dwnel 1.4-cilometr (4,600 tr) o dan y dref ac i'r pwerdy, ac yna'n ôl i'r afon. Yn y 1970au crewyd argaeau drwy Seland Newydd ac mae'r afon bellach yn llifo i gamlas 26-cilometr (16 mi) ac i mewn i bwerdy Tekapo B ar lan Llyn Pukaki.