Llyncdwll

Llyncdwll
Mathpant, ardal carst, sinkhole Edit this on Wikidata
Rhan ocarst Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Agoriad sy'n ymddangos yn sydyn ar wyneb y ddaear wrth i'r deunydd isod cwympo i wacter oherwydd symudiad o dan yr arwyneb yw llyncdwll.[1][2]

Bu i 51 o lyncdyllau achosi trafferthion wrth adeiladu ffordd yr A55 ger Glan Llyn. Mae'n ymddangos i'r rhain ymddangos oherwydd strwythurau gwan yn y creigiau isod.[3] Mae newidiadau i'r lefel dŵr yn y tir a'r creigiau yn cael ei adnabod fel ffactor sy'n cyfrannu at lyncdyllau, gyda'r tebygolrwydd ohonynt yn ymddangos yn codi yn ystod ac yn dilyn cyfnodau hir o law trwm.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Y Termiadur, s.v. "sinkhole"
  2. Geiriadur yr Academi, s.v. "sink"
  3. Nichol, Douglas (September 1998). "Sinkholes at Glan Llyn on the A55 North Wales Coast Road, UK". Engineering Geology 50 (1–2): 101-109. http://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0013795298000039. Adalwyd 21 Hydref 2014.
  4. "What are sinkholes and what causes them?". The Guardian. 4 Mawrth 2013. Cyrchwyd 20 Hydref 2014.