Er bod Wrwgwái yn un o wledydd lleiaf De America, cafwyd cryn ddylanwad gan lên Wrwgwái ar lenyddiaeth Sbaeneg America Ladin.
Un o feirdd arloesol y wlad oedd Bartolomé Hidalgo (1788–1822), un o'r llenorion cyntaf i ysgrifennu am fywyd y gaucho. Amlygwyd Rhamantiaeth yn llên Wrwgwái gan waith Adolfo Berro (1819–41) a Juan Zorrilla de San Martín (1855–1931). Ystyrir Zorrilla yn Fardd Genedlaethol Wrwgwái am iddo gyfansoddi arwrgerddi a barddoniaeth wladgarol debyg megis Notas de un himno (1877), La leyenda patria (1879), Tabaré (1888), a La epopeya de Artigas (1910).
Ar ddiwedd y 19g ymddangosodd y to o lenorion a elwir La Generación del 900. Llenor enwocaf y wlad mae'n bosib, a dylanwad pwysig ar wledydd eraill America Ladin, yw José Enrique Rodó (1871–1917), sy'n nodedig am ei lyfr Ariel (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau. Modernydd arall ar droad y ganrif oedd y bardd Julio Herrera y Reissig (1875–1910). Un o'r dramodwyr gwychaf yn holl lên America Ladin yw Florencio Sánchez (1875–1910), a chânt ei ddramâu eu perfformio hyd heddiw. Yn hanner cyntaf yr 20g blodeuai beirdd rhamantus megis Delmira Agustini (1886–1914) a Juana de Ibarbourou (1892–1979), ac ysgrifennwyd hefyd barddoniaeth delynegol gan Emilio Frugoni (1880–1969) ac Emilio Oribe (1893–1975). Caiff Horacio Quiroga (1878–1937) ei ystyried yn un o feistri'r stori fer Sbaeneg.
Ymhlith mawrion y wlad ers canol yr 20g mae Juan Carlos Onetti (1909–94), ffuglennwr a nodir am ei straeon seicolegol, a Mario Benedetti (1920–2009), bardd, nofelydd ac ysgrifwr o fri ac un o hoelion wyth La Generación del 45. Llenor ffeithiol amlycaf y wlad yn niwedd yr 20g oedd Eduardo Galeano (1940–2015), awdur y gweithiau hanes Las venas abiertas de América Latina (1971) a thriawd Memoria del fuego (1982–87). Dramodydd cyfoes pwysicaf y wlad yw Jacobo Langsner (1927–2020).
Bu sawl llenor o Wrwgwái yn ysgrifennu drwy gyfrwng y Ffrangeg, gan gynnwys Comte de Lautréamont (1846–70), Jules Laforgue (1860–87), Jules Supervielle (1884–1960), Ricardo Paseyro (1925–2009), a Álvaro García de Zúñiga (g. 1958).
Cyhoeddir y mwyafrif o bapurau newydd dyddiol Wrwgwái yn y brifddinas, Montevideo. Perchnogir nifer ohonynt gan bleidiau gwleidyddol, neu fel arall yn gysylltiedig â charfan wleidyddol benodol. Sefydlwyd El Día gan José Batlle y Ordóñez, arweinydd y Partido Colorado, yn 1886, ac hwnnw oedd y papur uchaf ei barch yn y wlad nes iddo mynd i'r wal yn 1993. Y papur newydd a chanddo'r cylchrediad uchaf ydy El País, cyhoeddiad a gysylltir â'r Partido Blanco. Un o'r prif bapurau dyddiol annibynnol ydy El Observador Económico.
Lleolir Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái yn y brifddinas, Montevideo.
|