Louis de Sancerre | |
---|---|
Ganwyd | 1342 Sancerre |
Bu farw | 6 Chwefror 1402 Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | person milwrol |
Swydd | Constable of France |
Tad | Louis II de Sancerre |
Milwr Ffrengig yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd oedd Louis de Sancerre (1341/42 - 1402). Bu'n Farsial Ffrainc o 1368 hyd 1397, ac yn Gwnstabl Ffrainc o 1397 hyd 1402.
Roedd yn ail fab i'r Cownt Louis II a Béatrix de Roucy. Lladdwyd ei dad ym Mrwydr Crécy yn 1346. Daeth i sylw yn 17 oed, pan lwyddodd ef a'i frodyr i amddiffyn tref Sancerre yn erbyn y Saeson. Pan ail-ddechreuodd y Rhyfel Can Mlynedd yn 1369, bu ganddo ran amlwg yn yr ymladd, a bu Owain Lawgoch yn ymladd tano ef ar brydiau.