Duw Celtaidd ar gyfandir Ewrop oedd Lugus. Mae'n cael ei gynrychioli ym mytholeg Gymreig gan Lleu Llaw Gyffes, y ceir ei hanes yn y chwedl Math fab Mathonwy, ac yn Iwerddon gan y duw Gwyddelig Lugh. Ystyr lug, bôn yr enw, yw "golau/goleuni" (cf. y gair Lladin lux a'r gair Cymraeg goleu).
Ceir cyfeiriad posibl ato mewn arysgrif Geltibereg o Peñalba de Villastar, yn nhalaith Teruel, Sbaen, sy'n dyddio i tua droad yr 2g OC. Ceir y ffurfiau amryw Lugoues a Lugoibus mewn sawl arysgrif arall. Mae'r enwau lle Luguvalium (Caerliwelydd), Lug(u)dunum (Lyons), yng nghanolbarth Ffrainc, Lugo yn Sbaen a Leiden yn yr Iseldiroedd yn dwyn ei enw yn ogystal.
Damcaniaethodd yr ysgolhaig Celtaidd Henri d'Arbois de Jubainville fod modd deall cyfeiriad gan Iŵl Cesar yn ei lyfr De Bello Gallico at brif dduw y Galiaid fel cyfeiriad at Lugus, ond nid yw pawb yn derbyn hyn bellach.