Lyn Evans | |
---|---|
Ganwyd | 24 Gorffennaf 1945 Aberdâr |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | ffisegydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Robert R. Wilson, Glazebrook Medal, CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd y Sefydliad Ffiseg, IEEE Simon Ramo Medal, Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Gwyddonydd o Gymru yw Lyn Evans (ganed 1945). Ef oedd cyfarwyddwr prosiect CERN, ger Genefa yn y Swistir.
Fe'i ganwyd a magwyd yn Aberdâr, yng nghymoedd de Cymru. Addysgwyd yn Ysgol Ramadeg Bechgyn Aberdâr, lle bu ganddo ddiddordeb mewn gwyddoniaeth. Ond cafodd hi'n anodd pasio ei Lefel O mewn Ffrangeg, cymhwyster a oedd yn angenrheidiol iddo allu astudio cwrs gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Abertawe.[1] Roedd ganddo ddiddordeb mewn cemeg pan oedd yn ifanc,[2] a cofrestrodd i astudio'r pwnc hwn yn y brifysgol, cyn newidi astudio ffiseg yn ei ail flwyddyn yn y brifysgol, gan ei fod yn canfod y pwnc yn haws[3][3] Daeth yn gymrawd anrhydedd o Brifysgol Abertawe yn 2002.[4] Gwbrwywyd â Doethuriaeth Anrhydedd mewn Gwyddoniaeth gan Brifysgol Morgannwg yng Ngorffennaf 2010.
Cymrawd ymwchwil oedd Evans yn CERN i gychwyn, wedi iddo ymweld â'r sefydliad am y tro cyntaf ym 1969.[3] Yn ogystal â bod yn gyfarwyddwr CERN erbyn hyn, mae'n arweinydd y Prosiect Gwrthdrawydd hadronnau mawr (Large Hadron Collider Project) yn CERN, sy'n ceisio ail-greu eiliadau cyntaf y bydysawd yn dilyn y Glec Fawr. Cafodd y llysenw Evans yr Atom gan y wasg.[2]