Lyudmila Alexeyeva

Lyudmila Alexeyeva
LlaisLyudmila Alekseeva voice.oga Edit this on Wikidata
Ganwyd20 Gorffennaf 1927 Edit this on Wikidata
Yevpatoria Edit this on Wikidata
Bu farw8 Rhagfyr 2018 Edit this on Wikidata
Moscfa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Rwsia Rwsia
Alma mater
  • Cydadran Hanes MSU Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd, amddiffynnwr hawliau dynol, llenor, gwleidydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Sefydliad Gwybodaeth Wyddonol ar y Gwyddorau Cymdeithasol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Gomiwnyddol yr Undeb Sofietaidd Edit this on Wikidata
PriodNikolai Vilyams Edit this on Wikidata
PlantMichael V. Alexeev Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Olof Palme, Gwobr Sakharov, Gwobr Hawliau Dynol Václav Havel, Member of the Order of Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Gwobr Wladwriaeth Ffederasiwn Rwsia, Knight of the Order of Merit of the Republic of Poland, Order of the Lithuanian Grand Duke Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://lm-alexeeva.livejournal.com/ Edit this on Wikidata
Recorded in Hydref 2012

Problem chwarae ffeil yma? Gweler Cymorth.

Hanesydd o Rwsia oedd Lyudmila Alexeyeva (Russian: Людми́ла Миха́йловна Алексе́ева, IPA: [lʲʊˈdmʲilə ɐlʲɪˈksʲeɪvə]; 20 Gorffennaf 1927 - 8 Rhagfyr 2018) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gweithredydd dros hawliau dynol ac awdur.[1] Roedd yn un o'r gwrthwynebwyr Sofietaidd diwethaf a oedd yn weithgar yn y Rwsia fodern.[2][3]

Fe'i ganed yn Yevpatoria, gorllewin y Crimea a bu farw yn Moscfa. [4][5][6]

Y cyfnod Sofietaidd

[golygu | golygu cod]

Yn Ebrill 1968, cafodd Alexeyeva ei diarddel o'r Blaid Gomiwnyddol a a chollodd ei swydd yn y tŷ cyhoeddi. Serch hynny, parhaodd â'i gweithgareddau i amddiffyn hawliau dynol. Rhwng 1968 a 1972 gweithiodd yn ddirgel fel teipydd ar gyfer y bwletin tanddaearol cyntaf o Хро́ника теку́щих собы́тий (Cronicl o Ddigwyddiadau Cyfoes), papur a oedd yn canolbwyntio ar droseddau hawliau dynol yn yr Undeb Sofietaidd.

Yn Chwefror 1977, ffodd Alexeyeva o'r Undeb Sofietaidd i Unol Daleithiau America yn dilyn ymgyrch gan yr awdurdodau Sofietaidd yn erbyn aelodau o'r Cronicl. Yn yr Unol Daleithiau parhaodd Alexeyeva i eiriol dros welliannau hawliau dynol yn Rwsia a bu'n gweithio ar ei liwt ei hun ar gyfer 'Radio Free Europe' a 'Radio Liberty' a 'Voice of America'. Daeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau ym 1982.[7]

Yn 1990, cyhoeddodd The Thaw Generation, hunangofiant a ddisgrifiodd ffurfio'r mudiad gwrth-Sofietaidd; cyd-ysgrifennwyd â Paul Goldberg.[8]

Yn ôl i Rwsia

[golygu | golygu cod]

Yn 1989 ailddechreuodd Grŵp Helsinki Moscow yn dilyn ei ddiddymiad ym 1982. Yn 1993, ar ôl diddymiad yr Undeb Sofietaidd, dychwelodd i Rwsia, a daeth yn gadeirydd Grŵp Moscow Helsinki ym 1996. Yn 2000, ymunodd Alexeyeva â chomisiwn a sefydlwyd i gynghori'r Arlywydd Vladimir Putin ar faterion hawliau dynol, symudiad a sbardunodd cryn feirniadaeth gan rai gweithredwyr hawliau eraill.[3][9]

Roedd Alexeyeva yn feirniadol o record hawliau dynol y Kremlin ac fe gyhuddodd y llywodraeth o droseddau yn erbyn hawliau dynol niferus gan gynnwys gwahardd cyfarfodydd a phrotestiadau di-drais ac anog eithafwyr gyda'i bolisïau cenedlaetholgar, fel alltudiadio llu o Georgiaid yn 2006 a chyrchoedd heddlu yn erbyn tramorwyr a weithiai mewn marchnadoedd stryd.[10]

Yn 2006, cafodd ei chyhuddo gan awdurdodau Rwsia o ymwneud â chudd-wybodaeth Prydain a derbyniodd fygythiadau gan grwpiau cenedlaetholgar.

Aelodaeth

[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gyngor Arlywyddol mewn Iawnderau Dynol a Chymdeithas Sifil am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

[golygu | golygu cod]
  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen (2009), Officier de la Légion d'honneur, Gwobr Olof Palme (2004), Gwobr Sakharov (2009), Gwobr Hawliau Dynol Václav Havel (2015), Member of the Order of Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, 3ydd Dosbarth, Gwobr Wladwriaeth Ffederasiwn Rwsia, Knight of the Order of Merit of the Republic of Poland, Order of the Lithuanian Grand Duke Gediminas, Urdd Croes Terra Mariana, Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Gwlad Pwyl .

Llyfryddiaeth, erthyglau a chyfweliadau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "В Москве умерла правозащитница Людмила Алексеева". BBC Russian Cervice. 8 Rhagfyr 2018. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2018.
  2. New politics. New Politics Associates. 1989. t. 133.
  3. 3.0 3.1 Maria Danilova (15 Mehefin 2004). "Lyudmila Alexeyeva Speaks Her Mind" (#977 (45)). The St. Petersburg Times. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mehefin 2007. Cyrchwyd 9 Rhagfyr 2018. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 15 Hydref 2015. "Ludmilla Alexejeva". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php. "Ljudmila Alexejewa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  5. Dyddiad marw: https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php. "Ljudmila Alexejewa". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. Man geni: https://www.lepoint.fr/monde/lioudmila-alexeeva-la-lutte-pour-les-droits-de-l-homme-de-brejnev-a-poutine-08-12-2018-2277600_24.php.
  7. "Алексеева отвергла намеки ТВ на ее связь со шпионами". BBC News Русская служба (yn Rwseg). Cyrchwyd 8 December 2018.
  8. Alexeyeva, Ludmilla; Goldberg, Paul (1990). The thaw generation: coming of age in the post-Stalin era. Pittsburgh: University of Pittsburgh Press. ISBN 978-0822959113.
  9. "The Doyenne Of Russia's Human Rights Movement". Radio Free Europe/Radio Liberty (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2018.
  10. Gregory Feifer (March 7, 2007), Russia's New Dissidents Defend Human Rights. National Public Radio.