Léon Marchand | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 17 Mai 2002 ![]() Toulouse ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nofiwr ![]() |
Taldra | 187 centimetr ![]() |
Pwysau | 77 cilogram ![]() |
Tad | Xavier Marchand ![]() |
Mam | Céline Bonnet ![]() |
Perthnasau | Christophe Marchand ![]() |
Gwobr/au | Champion des champions français de L'Équipe, Chevalier de la Légion d'Honneur ![]() |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Dauphins du TOEC ![]() |
Gwlad chwaraeon | Ffrainc ![]() |
Nofiwr o Ffrainc yw Léon Marchand (ganwyd 17 Mai 2002). Mae'n rhan o dîm nofio Prifysgol Talaith Arizona. Ef sy'n dal y record byd ac Olympaidd ar gyfer medli unigol 400 metr, record Olympaidd ar gyfer dull glöyn byw 200 metr a 100 metr dull broga. Ef hefyd sy'n dal y record Ffrengig ar gyfer medli unigol 200 metr, dull glöyn byw 200 metr a 200 metr dull broga. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024 enillodd y fedal aur yn y medli 200m,[1] 200m dull broga, dull glöyn byw 200m a medli 400 metr. Ef yw'r pedwerydd nofiwr yn hanes y gemau i ennill pedair medal aur unigol mewn un gemau. Ei gemau Olympaidd cyntaf oedd Gemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo.[2]
Ganwyd Marchand yn Toulouse, Ffrainc. Mae'n fab i'r cyn-nofiwyr medli Xavier Marchand a Céline Bonnet.