Hen uned o hyd yw'r lîg[1] neu'r leg.[2] Defnyddiwyd yn gyntaf yng Ngâl yng nghyfnod y Rhufeiniaid pan oedd yn cyfateb i 1500 o gamau. Daeth y lîg i Loegr gyda'r Normaniaid. Defnyddiwyd yr uned ar draws Ewrop dros y canrifoedd gan amrywio o 2.4 i 4.6 milltir.[3]