Ammophila arenaria | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Monocotau |
Urdd: | Poales |
Teulu: | Poaceae |
Genws: | Ammophila (Poaceae) |
Rhywogaeth: | A. arenaria |
Enw deuenwol | |
Ammophila arenaria Carolus Linnaeus | |
Cyfystyron | |
Ammophila australis |
Planhigyn blodeuol monocotaidd a math o wair yw Môr-hesgen sy'n enw benywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Poaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Ammophila arenaria, yr enw Llydaweg yw Morhesk a'r enw Saesneg yw Marram.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Moresg, Corswellt y Tywod, Glaswellt y Tywod, Merydd, Morhesg, Morhesgen a Myrydd.
Mae'r moresg yn gyfyngedig i barthau arbennig o arfordiroedd tywodlyd lle mae'r tywod yn agored i gael ei chwythu gan gwynt. Hwn sydd bennaf gyfrifol am greu twyni tywod arfordirol (nid y rhai mewn diffaethdir). Trwy ei blannu'n strategol, defnyddiwyd y planhigyn trwy'r canrifoedd i reoli erydiad arfordirol.
Er mai y ffurf luosog moresg yw ei enw traddodiadol nid yw'r môr-hesgen yn perthyn mewn difrif i deulur hesg [2][3]- gweler uchod. Cofnodwyd hefyd iddo gael ei alw yn Corswellt y Tywod sydd braidd yn gwrthddweud ei hyn gan mai tywod sych yn unig yw ei gynefin.
Ceir ymysg yr enghreifftiau o merydd neu myrydd gan GPC y canlynol:
Ei enw yn Saesneg yw marram a'i enw gwyddonol yw Ammophila arenaria.
Mae'r dail hirfain yn wyrdd golau ar yr un ochr (allanol) ond mae'r ochr arall (mewnol) yn oleuach ac o ansawdd gwahanol. Mae'n tyfu'n ysgubau trwchus ac ar ei orau heb gystadleuaeth o du blanhigion eraill. Mae'r blodau ar ffyrf ysbigyn praff lliw hufen.
Rhywogaethau cyffredin tebyg yw marchwellt y twyni[4] Elytrigia juncea a clymwellt[5]Leymus arenarius. Nodwedd dibynadwy i'w gwahaniaethu yw'r llabedyn (ligule) deubig, hyd yn oed ar yr eginblanhigion.
Mae moresg yn gynhenid i Gymru [ac i Ewrasia???]. Mae rhywogaethau eraill o for-hesgen i'w cael yn y Byd Newydd, megis Ammophilla breviligulata[6].
Un o brif nodweddion ecolegol moresg yw'r rhywdwaith di-bendraw o wreiddiau sydd fel petaent yn ymwau trwy'r tywod rhydd gan weithio fel rhwyd i sefydlogi'r tywod. Mae'r dail hirfain yn wyrdd golau ar un ochr (allanol) ond mae'r ochr arall (mewnol) bron yn wyn gan stomata. Mewn tywydd sych mae'r ddeilen yn cau am ei hun i arbed colli dŵr trwy'r stomata. Mae'r planhigyn yn blodeuo ym misoedd [yr haf?] mewn tywod moel sydd heb dyfiant arall.
Mae cerflyn gan Ann Catrin yn dathlu'r diwydiant plethu moresg yn Niwbwrch i wneud matiau, rhwydi, rhaffau ayb i'w weld ym maes parcio Penlon y pentref.
Ysgwn i at ba bwrpas oedd y moresg yma ym Mhen Llŷn?
Ar yr 22ain Chwefror 1632 nododd y dyddiadurwr o ffermwr a sgweiar y Dronwy, Môn, Robert Bulkeley fel hyn: pryce ap h gaue me a 100 taneu moresg:..., ac eto fel hyn ar y 11 Gorffennaf 1632: all windy, J pd 2d for taneu Moresk[8]. Mae'r gair tannau yng nghyswllt moresg ar gof y to hŷn yn Niwbwrch heddiw yn golygu cyrt(s) neu linynnau a ddefnyddid i wau dwy bleth at ei gilydd. Mae'n debyg mai prynu tanneu moresg fel y buasai ffermwr yn prynu rheffyn heddiw oedd Bulkeley"[angen ffynhonnell].
"Timpan foresg: y tro cyntaf imi weld cyfeiriad at hwn oedd yng ngholofn Llith Bob Owen Croesor yn Y Genedl Gymreig. Roedd yntau wedi ei godi o daliadau yn Llyfr Festri plwyf Ynyscynhaearn o dan fis Mai 1756. Ynddo ceir "Am dimpan foresg 8d". Bu Bob mewn penbleth ynglŷn â beth a olyga. Mewn ymateb iddo awgrymodd Ioan Brothen tybed ai math o fwrthwl sinc wedi ei wneud o hesg ydoedd. Pa fodd bynnag methwn i a deall pam a fuasai'r eglwys yn talu am wneud y fath beth i'r plantos Ar ôl ychydig o ymchwil deuthum i wybod mai math o glustog i'w roi o dan y pengliniau neu'r pen ôl oedd y tinpan neu timpan hwn ac wrth gwrs roedd wedi ei wneud o foresg ac ar gyfer yr addolwyr yn ddiau. Bum yn meddwl hefyd tybed ai un wedi ei wneud yn lleol oedd hwn".[9]
Mewn taflen Eisteddfod Môn dan y gystadleuaeth "basket making &c." Yn Eisteddfod Môn tua diwedd y 19eg ceir: "69. "Mor hesg" doormat (18" x 24") Prize 4/- 70. Ysgub lawr o for hesg. Prize 2/- Nos. 69 and 70 confined to Anglesey".
Er mai prin yw’r matwyr erbyn hyn mae’r diwydiant yn mynd yn ôl i o leiaf yr 17g. Defnyddiwyd y moresg hefyd i wneud rhwydi, rhaffau ac ysgubau glanhau. Pa mor bell cawsant eu hallforio? Oes rhywun yn cofio defnyddio sea grass mats yn yr ysgol?[10]
Yn groes i'r disgwyl efallai, prin yw'r enwau lleoedd Cymraeg a Chymreig sydd yn cyfeirio at foresg. Yn Nhywyn, Meirionnydd, yn ôl map AO dyddiedig 1837, mae'r enw Tyrau Morysg wedi ei leoli yn SN5996. Fe'i dehonglir yn yr orgraff fodern fel Tyrrau Moresg[11], dehongliad rhesymol o ystyried lleoliad yr enw ar fap 1837, ar y traeth o dan y dref.
Yn fwy nag unrhyw blanhigyn arall, nid oes posibl gwahanu'r for-hesgen oddi wrth ei chynefin - y tywyn. Y moresg sydd yn creu'r twyni y mae'n dibynnu arnynt. Dyna paham y dylid chwilio am dystiolaeth o foresg mewn enwau lleoedd yn yr amryfal enwau llafar am dwyni. Dyma rai o'r enwau: ponciau (Niwbwrch), tociau (Harlech), tonennydd (Dyffryn Ardudwy). Mae'n bosibl mai tyrrau oedd yr enw llafar ar dwyni yn ardal Tywyn. (Yn ddiddorol ddigon, mae rhan o fynyddoedd twmpathog Cader Idris heb fod ond ychydig filltiroedd o Dywyn, yn dwyn yr enw Tyrrau Mawr).
Mae cae o'r enw "Moresg" ar fryncyn (o'r enw Banc Mathew ar lafar), rhwng Harlech a Talsarnau, ger ffermdy Glan y Môr[angen ffynhonnell]. Er fod tywod moel y morfa heli ac aber y Ddwyryd gerllaw, a thwyni Morfa Harlech nid nepell i ffwrdd, nid yw'n amlwg sut y caffai'r cae hwn y tywod angenrheidiol y gynnal moresg a theilyngu'r enw.