Macedonio Fernández | |
---|---|
Ganwyd | 1 Mehefin 1874 Buenos Aires |
Bu farw | 10 Chwefror 1952 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athronydd, bardd, llenor, nofelydd, awdur storiau byrion, rhyddieithwr, cyfreithegwr |
Arddull | barddoniaeth, poetic prose, traethawd |
Plant | Adolfo de Obieta |
Llenor yn yr iaith Sbaeneg o'r Ariannin oedd Macedonio Fernández (1 Mehefin 1874 – 10 Chwefror 1952) sy'n nodedig am y dylanwad a gafodd ar Jorge Luis Borges, un o feistri llên yr Ariannin.
Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Ysgrifennodd straeon byrion, barddoniaeth, nofelau, llythyrau, ac ysgrifau. Cyferbynnir ei gynnyrch llenyddol yn aml â gwaith Leopoldo Lugones o ran estheteg, ac am y rheswm hwnnw cafodd ei fabwysiadu gan y mudiad ultraismo yn y 1920au. Cyhoeddwyd y mwyafrif o'i weithiau wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y nofel arbrofol Museo de la novela de la Eterna (1967). Bu farw yn Buenos Aires yn 77 oed.[1]