Maches | |
---|---|
Ffenestr liw yn Llanogo, Sir Fynwy, yn cynnwys llun o Faches. | |
Ganwyd | 5 g Teyrnas Gwent |
Bu farw | 6 g Llanfaches |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Tad | Gwynllyw |
Mam | Santes Gwladys |
Santes o'r 6g oedd Maches (Lladin: Machuta, a roddodd ei henw i'r pentref Llanfaches (cyn hynny: "Merthyr Maches").
Roedd yn ferch i Gwladys ach Brychan a Gwynllwg ac yn chwaer i Cadog, Cyfyw, Cynidr a Glywys.[1] Credir mai bugail ydoedd ac iddi gael ei lladd gan ladron penffordd a geisiodd ddwyn ei maharen.[2] Mae eraill yn dweud ei bod hi wedi lladd gan pagan a aeth ati fel cardotyn a trywanwyd hi gyda cyllell
Yn ôl y traddodiad, cododd Tathew eglwys iddi yn Llanfaches (a alwyd cyn hynny yn 'Ferthyr Marches') er cof amdani, ond symudwyd ei chorff i eglwys yng Nghaer-went.
Dylid darllen yr erthygl hon yng nghyd-destun Santesau Celtaidd 388-680