Madison

Madison
Enghraifft o:seiclo trac Edit this on Wikidata
Mathseiclo trac, relay race Edit this on Wikidata
Enw brodorolMadison Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cystadleuaeth tîm ar y trac seiclo yw madison. Fe'i enwir ar ôl Madison Square Garden yn Efrog Newydd[1] ac fe'i hadnabyddir fel y "Ras Americanaidd" yn Ffrangeg (course à l'américaine) ac yn Eidaleg a Sbaeneg fel Americana[2].

Beiciwr yn lansio ei bartner yn ystod ras madison

Mae'r madison yn debyg iawn i ras bwyntiau ond gyda'r beicwyr yn cystadlu mewn timau o ddau neu dri. Ar unrhyw adeg o'r ras, mae un aelod o'r tîm yn rasio tra bod aelod arall y tîm yn gorffwys trwy reidio o amgylch top y trac. Yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau Trac y Byd mae'r timau yn cystadlu mewn parau. Er mwyn i aelod sy'n gorffwys gymryd drosodd gan yr aelod sy'n rasio mae angen i'r ddau feiciwr gyffwrdd ei gilydd ond yn amlach na pheidio bydd hyn yn digwydd wrth i'r ddau afael dwylo a chael yr un sy'n gadael y ras yn lansio'r llall yn ei flaen.

Nod y ras, sy'n digwydd dros 50 km, yw i gwblhau mwy o gylchdroadau'r trac nag unrhyw un o'r timau eraill. Bydd timau sydd yn gyfartal ar y nifer o gylchdroadau yn cael eu rhannu yn ôl y pwyntiau maent wedi ennill yn ystod cyfres o rasys wib sydd yn digwydd pob 20 lap yn ystod y ras[1].

Prif bencampwriaethau

[golygu | golygu cod]

Cafodd y madison ei gyflwyno i Bencampwriaethau Trac y Byd ym 1995[3] a phum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei gyflwyno yn rhan o gystadleuaeth seiclo trac yng Ngemau Olympaidd 2000 yn Sydney, Awstralia[4]. Cafodd ei dynnu allan o raglen seiclo'r Gemau Olympaidd ar ôl Gemau 2008 yn Beijing, Tsieina, er mwyn gwneud lle i gystadlaethau BMX[5].

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Madison". BBCSport.
  2. Jacques Fortin, gol. (2000). L'Encyclopédie visuelle des sports. Québec Amérique. t. 47. ISBN 2764411693.
  3. "Women's Madison: Is it time for the UCI to introduce the event?". Peleton Watch. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)
  4. "Cycling at the 2000 Sydney Summer Games: Men's Madison". Sports Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-14. Cyrchwyd 2016-08-18.
  5. "Salzwedel calls for Madison to return to Olympic programme - Track Worlds News Shorts". Cycling News. Unknown parameter |dyddiad= ignored (help)