Math | maes awyr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Trallwng |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 71 metr |
Cyfesurynnau | 52.6294°N 3.1525°W |
Maes Awyr y Trallwng | |||
---|---|---|---|
IATA: dim – ICAO: EGCW | |||
Crynodeb | |||
Perchennog | Linda Jones | ||
Rheolwr | Mid Wales Airport Ltd. | ||
Gwasanaethu | Y Ganolbarth,Sir Amwythig | ||
Lleoliad | Y Trallwng, Powys | ||
Adeiladwyd | 1990 | ||
Uchder | 223 tr / 71 m | ||
Gwefan | |||
Lleiniau glanio | |||
Cyfeiriad | Hyd | Arwyneb | |
tr | m | ||
04/22 | 1,023 | 3,346 | Tarmac |
Lleolir Maes Awyr y Trallwng 2 filltir i'r de o dref y Trallwng, ym Mhowys, Cymru.
Mae ganddo trwyddeb CAA (Rhif P865) sy'n caniatáu hedfan i gludo teithwyr cyhoeddus neu hyfforddiant hedfan, fel yr awdurdodir gan y dalwr trwyddeb, Mid Wales Airport Ltd.. Mae'r maes awyr hefyd yn drwyddedig am ddefnydd gyda'r nos. Mae ganddo tŵr rheoli sy'n cynnig gwasanaeth cynghorol awyr/tir yn ystod y dydd.
Mae nifer o ysgolion hedfan gyda sail yn y maes awyr, gan gynnwys ysgol hedfan hofrennydd.
Sefydlwyd y maes awyr ym 1990 gan ffermwr lleol, Bob Jones. Roedd e eisoes wedi gwneud llain laswellt ar ei dir ffermio yn Nhrehelig ym 1987. Fe'i uwchraddiwyd i redfa tarmac llawn ym 1990, pan ddatganodd y Bwrdd Datblygu Dros Gymru Wledig ei ddiddordeb mewn creu maes awyr yn y Ganolbarth er mwyn cefnogi busnesau lleol. [1]
Estynwyd y rhedfa eto yn 2004 gan 190 metr ar ei phen de-orllewinol, er mwyn gallu derbyn awyrennau busnes mwy.[2]
Bu farw Mr Jones yn 2012 mewn damwain hedfan gyda pheilot arall pan aeth eu hawyren mewn cwmwl a tharo coed ar ben allt gerllaw y maes awyr.[3] Cymerodd ei angladd lle yn y dref, gyda gorymdaith ar hyd y rhedfa, a hofrenydd yr ambiwlans awyr yn hedfan dros yr eglwys fel arwydd o barch. [4]
Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn defnyddio Maes Awyr y Trallwng fel un o'i bedair canolfan ar draws y wlad.[5] Mae'n gweithredu un hofrennydd Airbus H145 yn y Trallwng, gyda chofrestriad G-WOBR, ac arwydd galw "Helimed 59".
Er bod Ambiwlans Awyr Cymru yn gweithredu trwy'r nos gydag un hofrenydd yng Nghaerdydd, oherwydd rhesymau gweithredol, mae G-WOBR dim ond yn gallu hedfan yn ystod oriau golau dydd.[6]