Cerfluniau euraid bychain o fagiaid yn dwyn offer defodol y batsom, o gasgliad trysorau Oxus, sy'n dyddio o'r 4g CC. | |
Enghraifft o'r canlynol | teitl, llwyth |
---|---|
Math | clerigwr |
Rhan o | clerigwr |
Lleoliad | hanes Iran |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o'r offeiriadaeth yn Zoroastriaeth a chrefyddau hynafol eraill Persia yw magiad[1] (Perseg: مغ magh).
Yn ôl Herodotus, un o chwe llwyth y Mediaid oedd y "Magoi". Ar y cychwyn buont yn gyfrifol am holl ddefodau'r Mediaid, beth bynnag yr arfer neu gwlt lleol. Mae'n debyg iddynt ddatblygu felly fel dosbarth offeiriadol etifeddol. Sefydlwyd y ffydd Zoroastriaidd gan y Proffwyd Zarathustra yn yr 2il fileniwn CC, ac wrth iddi ymledu ar draws llwyfandir Iran daeth yn rhan o draddodiadau crefyddol Ymerodraeth Persia dan gyfarwyddiaeth y magiaid. Dan drefn Zarathustra, bu dau fath o offeiriad: y zaotar sy'n gweinyddu, a'r manthran sy'n cyfansoddi mantrâu sanctaidd. Yn ystod cyfnod yr Achaemeniaid, daeth Babilon yn ganolfan i'r magiaid, ac yno mae'n debyg iddynt ymwneud â dewiniaeth a sêr-ddewiniaeth. Yn ddiweddarach, rhoddwyd yr enw mobed ar offeiriad gweinyddol, a chanddo'r hawl i hyfforddi offeiriaid eraill. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Sasanaidd yn y 7g OC, a gorchfygiad Persia gan yr Arabiaid, mabwysiadodd yr uchel offeiriad y teitl hudnan pesobay ("arweinydd y ffyddlon"), yn debyg i'r arfer Fwslimaidd.[2]
Yn yr oes fodern, rhennir yr offeiriadaeth Zoroastriaidd yn dri math o glerigwr: y mobed, yr ervad, a'r dastur. Mae gan yr ervad hawl i berfformio is-ddefodau'r ffydd. Uchel offeiriad ydy'r dastur, a gysylltir fel arfer ag un o'r temlau mawr, a chanddo griw o'r mobed yn ei gynorthwyo. Swyddogaethau litwrgïaidd sydd gan y mobed a'r ervad, heb fawr o waith bugeiliol na dysgu.[2]
Daw "magiad" yn y bôn o'r enw yn un o'r hen ieithoedd Iranaidd, a drosglwyddwyd i'r Hen Roeg ar ffurf μάγος (mágos; er enghraifft, yn hanesion Herodotus), ac yna magus yn Lladin. Yn y byd Groegaidd cafodd Zarathustra ei gysylltu â sêr-ddewiniaeth ac hudoliaeth, ac felly yn yr ieithoedd Ewropeaidd daeth yr amryw ffurfiau ar magus yn gyfystyr â "dewin". Yng Nghristnogaeth, cysylltir y gair yn enwedig â'r Tri Gŵr Doeth, neu'r Tri Brenin o'r Dwyrain, yn hanes geni'r Iesu (Mathew), a ddethlir gan ŵyl yr Ystwyll yn y Gorllewin a chan y Nadolig yn y Dwyrain. Ym mytholeg Gristnogol yr Oesoedd Canol, ymhelaethwyd ar stori Feiblaidd y Tri Magiad, gan roi iddynt yr enwau Caspar, Melchior, a Balthasar.[3]