Crys arweinydd y Giro d'Italia a'r Giro Donne yw'r maglia rosa (crys pinc). Mae'n galluogi'r reidiwr sy'n arwain ras sawl cymal i allu gael ei adnabod yn hawdd yng nghanol y grŵp.
Mae arweinydd cyffredinol y Giro d'Italia wedi gwisgo crys pinc y maglia rosa ers 1931, gan gyd-fynd â'r papur pinc a argraffwyd y La Gazzetta dello Sport arni ar y pryd.
Gwisgir y maglia rosa pob dydd gan y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o'r amser a gymerwyd i gyflawni'r cymalau hyd hynny. Gall y reidiwr sy'n gwisgo'r crys newid pob dydd wrth i'r ras fynd yn ei flaen, ond mae'r timau yn tueddu i wneud eu gorau i gadw eu reidwyr yn y crys oherwydd ceir ymddangosiad mwy yn y wasg i'r noddwyr a gwobrau ariannol. Mae pob tîm yn dod a chrysau pinc eu hunain i'r ras, gyda logos eu noddwyr arni rhag ofn bydd un o'u reidwyr hwy yn arwain y ras ar unrhyw adeg. Y reidiwr sydd â'r cyfanswm lleiaf o amser ar ddiwedd y ras yw enillydd cyffredniol y Giro a'r maglia rosa, yn yr un modd ag enillir y Maillot Jaune yn y Tour de France.