Rhaglen iaith sydd wedi'i dylunio i roi dull o gyfathrebu i unigolion nad ydynt yn gallu cyfathrebu'n effeithlon ar lafar yw Makaton.[1][2] Mae'r rhaglen iaith Makaton wedi'i defnyddio gydag unigolion sydd a namau gwybyddol, awtistiaeth, syndrom Down, nam iaith penodol, nam amlsynhwyraidd a anhwylderau niwrolegol caffael sydd wedi effeithio yn negyddol ar y gallu i gyfathrebu, yn cynnwys cleifion stroc.[3]
Mae'r enw "Makaton" yn deillio o lythrennau cyntaf enwau y tri therapydd iaith a lleferydd a helpodd i lunio'r rhaglen yn y 1970au: yr ymchwilydd Margaret Walker, a Katharine Johnston a Tony Cornforth, cydweithwyr o'r Gymdeithas Frenhinol i Bobl Byddar.[4]
Mae Makaton yn nod masnach cofrestredig The Makaton Charity, a sefydlwyd yn 2007.[5] Cafodd y cais nod masnach gwreiddiol ar gyfer Makaton ei ffeilio yn y DG ar 28 Awst 1979, a'r cofrestriad ei gymeradwyo o'r dyddiad hwnnw o dan gofrestriad nod masnach y DG rhif 1119745.[6]
Yn 2004 cafodd Makaton ei gynnwys yn yr Oxford English Dictionary fel gair oedd yn cael defnydd cyffredin. Mae'r cofnod yn disgrifio Makaton fel rhaglen iaith sy'n integreiddio lleferydd, arwyddion llaw a symbolau graffigol, a ddatblygwyd i gynorthwyo pobl sy'n ei chael yn anodd iawn i gyfathrebu, yn arbennig pobl gydag anawsterau dysgu.[7]