Mamma Mia! | |
Mamma Mia! yn Theatr Tywysog Cymru yn Llundain | |
---|---|
Cerddoriaeth | Björn Ulvaeus Benny Andersson |
Geiriau | Björn Ulvaeus Benny Andersson |
Llyfr | Catherine Johnson |
Seiliedig ar | Seiliedig ar ganeuon ABBA |
Cynhyrchiad | 1999 West End 2000 Toronto 2000 Boston a D.C. 2001 Broadway 2001 Taith Awstralasaidd Tour 2002 Taith yr Unol Daleithiau 2003 Las Vegas Cynhyrchiadau byd-eang Mamma Mia! The Movie |
Mae Mamma Mia! yn sioe gerdd gan y dramodydd Prydeinig Catherine Johnson. Seiliwyd y sioe gerdd ar ganeuon ABBA a gyfansoddwyd gan Benny Andersson a Björn Ulvaeus. Er fod teitl y sioe gerdd yn dwyn enw un o ganeuon ABBA o 1975, mae'r sioe ei hun yn ffuglennol ac nid yw'n fywgraffiadol.
Roedd Björn Ulvaeus a Benny Andersson ynghlwm â datblygiad y sioe o'r cychwyn cyntaf. Mae Anni-Frid Lyngstad wedi bod yn gysylltiedig â'r sioe yn ariannol ond nid yw Agnetha Fältskog yn gysylltiedig ag ef er ei bod yno ar noson agoriadol a noson olaf y sioe yn Sweden.
Erbyn Gorffennaf 2003, roedd dros deg miliwn o bobl wedi gweld y sioe. Amcangyfrifir fod 30 miliwn o bobl wedi gweld y sioe gerdd erbyn 2007. Ers i'r sioe agor ym 1999, mae'r cynhyrchiad wedi gwneud $2.0 biliwn UDA. [1]