![]() Lloyd in 2017 | |||||||||||||
Gwybodaeth bersonol | |||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Enw llawn | Manon Haf Lloyd | ||||||||||||
Ganwyd | Caerfyrddin, Cymru | 5 Tachwedd 1996||||||||||||
Gwybodaeth tîm | |||||||||||||
Tim presennol | Team Breeze (ffordd) British Cycling (trac) | ||||||||||||
Disgyblaeth | Seiclo trac | ||||||||||||
Record medalau
|
Mae Manon Haf Lloyd (ganwyd 5 Tachwedd 1996) yn feiciwr trac o Gymru sy'n cystadlu mewn cystadlaethau rhyngwladol. Enillodd fedal efydd ym Mhencampwriaethau Seiclo Trac Ewrop yn 2016, fel rhan o'r tîm pursuit.[1] Daeth Lloyd yn drydydd yn y gystadleuaeth unigol yn Matrix Fitness Grand Prix 2017.[2]
Y hynaf o ddau o blant, magwyd Lloyd ar fferm ddefaid ei theulu yng Nghrwbin, ger Cydweli.[3] Mynychodd Ysgol y Fro gerllaw yn Llangyndeyrn.[4] Bu'n mwynhau nofio a rhedeg pan oedd yn iau, a phenderfynodd droi ei llaw at driathlon, gan ymuno â'r clwb lleol, Towy Riders, a chychwyn seiclo pan oedd tua 14 oed ar y trac seiclo ym Mharc Caerfyrddin.[3]
|title=
(help)