Apatura iris | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Genws: | Apatura |
Rhywogaeth: | A. iris |
Enw deuenwol | |
Apatura iris (Linnaeus, 10fed Rhifyn o: Systema Naturae, 1758)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Glöyn byw sy'n perthyn i deulu'r Nymphalidae yn urdd y Lepidoptera yw mantell borffor, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll porffor; yr enw Saesneg yw Purple Emperor, a'r enw gwyddonol yw Apatura iris.[2][3] Mae i'w ganfod yng nghanol Ewrop, Asia, Tsieina a Japan; mae hefyd yn ymweld â de-ddwyrain Lloegr a Threfynwy ar adegau prin.
Dail coed y dderen ydy cynefin y fenyw fel arfer, gan ddod i lawr at lwyni a pherthi isel yn unig i ddodwy. Mae'r gwryw yn eitha tebyg - mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn uchel yn y dail, ond daw i lawr at byllau dŵr i gael diod. Ei waith penna ydy amddiffyn ei diriogaeth. Yn annarferol, nid yw'r glöyn byw hwn yn yfed neithdar blodau; mae'n gloddesta oddi ar chwys pryfaid glas (aphids) neu'n sugno sudd neu sap y dderwen.
Prif fwy y siani flewog ydy coed derw, helyg a phoplys.
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r mantell borffor yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.