Dryas iulia | |
---|---|
O'r top | |
O'r ochor | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Nymphalidae |
Llwyth: | Heliconiini |
Genws: | Dryas Hübner, [1807] |
Rhywogaeth: | D. iulia |
Enw deuenwol | |
Dryas iulia (Fabricius, 1775) | |
Isyrwogaethau | |
14 ssp., gweler y testun | |
Cyfystyron | |
Genws: |
Glöyn byw sy'n perthyn i'r genws Dryas yn urdd y Lepidoptera yw mantell felyngoch, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy mentyll melyngoch; yr enw Saesneg yw Julia neu The Flame, a'r enw gwyddonol yw Dryas iulia (neu wedi'i gamsillafu weithiau fel: Dryas julia[1]) [2][3]. Fe'i canfyddir ym Mrasil, Texas a Florida ac yn ystod yr haf fe'i welir mewn cynefinodd mor bell i'r de â dwyrain Nebraska.
Ceir dros 15 o isrywogaethau (gweler isod).
Mae'n löyn mawr, gyda lled yr adenydd ar ei eithaf rhwng 82 a 92 mm. Mae'r lliw oren yn fwy llachar yn y gwryw na'r fenyw. Yn wahanol i lawer o loynnod, caiff lonydd gan adar. Gan ei fod yn effro yn ystod y dydd a fod ganddo oes hir, mae'n eitha cyffredin ei wedi mewn adeiladau gloynnod e.e. Pili Palas.
Mae'r Fantell felyngoch yn hoff iawn o ymylon coedwigoedd, llennyrch a llwybrau cerdded. Mae'n chwim iawn ar ei adain. Prif fwyd y siani flewog ydy mathau o Passiflora.
Yn nhrefn yr wyddor:[4]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r fantell felyngoch yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.