Pryd o fwyd traddodiadol o Irac,[1]Libanus,[2][3]Palestina,[4][5][6][7] Gwlad yr Iorddonen[8][9] a Syria[3][10] yw Maqluba neu Maqlooba a wasanaethir ar hyd a lled y Lefant. Mae'n saig sy'n cynnwys cig, reis a llysiau wedi'u ffrio wedi'u rhoi mewn pot sy'n cael ei fflipio wyneb i waered wrth ei weini, a dyna'r enw maqluba,[11] sy'n cyfieithu'n llythrennol fel "wyneb i waered." Mae'r dysgl yn mynd yn ôl ganrifoedd ac mae i'w chael yn y Kitab al-Tabikh, casgliad o ryseitiau o'r 13g.[12]
Gall Maqluba gynnwys amrywiaeth o lysiau, fel tomatos wedi'u ffrio, tatws, blodfresych, a phlanhigyn ŵy, ynghyd â naill ai cyw iâr neu gig oen.[13] Y rhai mwyaf cyffredin yw blodfresych a phlanhigyn ŵy. Rhoddir yr holl gynhwysion yn y potyn yn ofalus, mewn haenau, fel bod y dysgl yn edrych fel cacen haenog pan fydd y pot wedi'i wrthdroi i'w weini.[4][11]
Yn nodweddiadol mae Maqluba wedi'i addurno â chnau pinwydd a phersli ffres wedi'i dorri'n fân.[14] Weithiau caiff ei wasanaethu gyda salad ac iogwrt ffres. Yn aml caiff ei baratoi a'i weini mewn gwleddoedd a neithiorau mawr ee priodasau neu achlysuron arbennig.
Ers yr ymgais coup d'état aflwyddiannus yn Nhwrci, yn 2016, mae'r pryd yma'n cael ei hstyried yn "ddanteithfwyd Gulenaidd". Ystyrir y pryd felly'n dystiolaeth gref o aelodaeth o fudiad Gülen (neu Hizmet), mudiad sydd yn cael ei ystyried gan Dwrci yn fudiad terfysgaidd.[15]
↑Ottolenghi, Yotam (2015). "Jerusalem on a Plate". Gastronomica: The Journal of Critical Food Studies (University of California Press) 15 (1): 3. doi:10.1525/gfc.2015.15.1.1. ISSN1529-3262. "Maqluba, an upside-down rice and vegetable cake that is actually Palestinian"