Marcelino Menéndez y Pelayo | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Tachwedd 1856 ![]() Santander ![]() |
Bu farw | 19 Mai 1912 ![]() Santander ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, hanesydd, llyfrgellydd, gwleidydd, academydd, cofiannydd, beirniad llenyddol, hanesydd llenyddiaeth ![]() |
Swydd | member of the Congress of Deputies, Aelod o Senedd Sbaen, Vocal of the Junta para Ampliación de Estudios e Investigaciones científicas, athro prifysgol ![]() |
Cyflogwr | |
Tad | Marcelino Menéndez Pintado ![]() |
Gwobr/au | Uwch Groes ar Orchymyn Sifil Alfonso XII ![]() |
llofnod | |
![]() |
Ysgolhaig a beirniad llenyddol o Sbaenwr oedd Marcelino Menéndez y Pelayo (3 Tachwedd 1856 – 19 Mai 1912) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at hanesyddiaeth ddiwylliannol Sbaen ac ieitheg Sbaeneg.
Ganed yn Santander, Cantabria, Teyrnas Sbaen. Penodwyd yn athro llên Sbaen ym Mhrifysgol Madrid o 1878 a bu yn y swydd honno hyd at 1898. Wedi hynny, gwasanaethodd yn gyfarwyddwr Biblioteca Nacional de España o 1898 hyd at ddiwedd ei oes. Bu farw yn Santander yn 55 oed.[1]
Cesglir ei weithiau mewn 43 cyfrol, Edición nacional de las obras completas de Menéndez y Pelayo (1940–46).[1]