![]() | |
Math | covered passageway, marchnad ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Gaza ![]() |
Gwlad | ![]() |
Yn ffinio gyda | Omar Mukhtar Street ![]() |
Cyfesurynnau | 31.5031°N 34.4639°E ![]() |
![]() | |
Mae'r Farchnad Aur (Arabeg: سوق الذهب; Souk ad-Dahab) ; a elwir hefyd yn Farchnad Qissariya, (Arabeg: سوق القيسارية ) yn llwybr gul gyda tho (hy wedi'i gorchuddio) yn Hen Ddinas Gaza, yng Ngwladwriaeth Palesteina.
Mae'r Farchnad Aur yn ganolfan bwysig ar gyfer masnachu a phrynu aur, ac ar gyfer cyfnewid tramor.[1] Saif y Farchnad ar hyd ymyl ddeheuol Mosg Mawr Gaza,[2] wrth ymyl prif Stryd Omar Mukhtar. Coronir y farchnad gan do pigfain a chromennog, sydd wedi'i leinio ar y ddwy ochr gan siopau bach, gyda phob siop hefyd wedi'u toi'n dwt.
Yn 1476, gorchmynnodd barnwr Gaza, sef Sheikh Shams ad-Din al-Himsi adeiladu'r Farchnad Aur, dan reolaeth y Mamluk ym Mhalestina. Yn wreiddiol, roedd y Farchnad yn rhan o farchnad dan do lawer mwy, ond dinistriwyd y rhan fwyaf o'r ardal gan Fyddin Lloegr yn y 1940au.[2]
Trwy gydol y rhan fwyaf o'r 20g a'r 21g, prif ymwelwyr y farchnad yw dynion a menywod ar fin priodi, cwsmeriaid sy'n dewis gemwaith aur; yma hefyd y daw mamau-yng-nghyfraith i brynu anrhegion i'w merched-yng-nghyfraith. Fodd bynnag, oherwydd prinder bwyd, trydan a hanfodion bywyd yn Gaza oherwydd rhwystr Israel yn Llain Gaza, mae'r Farchnad Aur yn cael ei defnyddio'n bennaf gan pobl oedrannus Gaza sy'n gwerthu gemau a thlysau'r teulu i godi arian i brynu bwyd.[2]