Maredudd ab Owain | |
---|---|
Ganwyd | 938 |
Bu farw | 999 |
Galwedigaeth | teyrn |
Swydd | Teyrnas Deheubarth, Teyrnas Gwynedd |
Tad | Owain ap Hywel |
Mam | Angharad ferch Llywelyn ap Merfyn ap Rhodri Mawr |
Plant | Angharad ferch Meredydd |
Roedd Maredudd ab Owain (bu farw 999) yn frenin Gwynedd a Deheubarth. Llwyddodd i sefydlu ei awdurdod dros y rhan fwyaf o Gymru, ac eithrio'r de-ddwyrain.[1]
Roedd Maredudd yn fab i Owain ap Hywel Dda, brenin Deheubarth. Pan aeth Owain yn rhy hen i arwain mewn brwydr, cymerodd Maredudd ei le, ac yn 986 llwyddodd i gipio Gwynedd o ddwylo Cadwallon ab Ieuaf. Roedd Gwynedd wedi bod yn rhan o derynas ei daid, Hywel Dda ac mae'n debyg fod y teulu yn parhau i'w hawlio. Ar farwolaeth Owain yn 988 daeth Maredudd yn frenin Deheubarth hefyd. Efallai fod y cyfan o Gymru heblaw Gwent a Morgannwg yn rhan o'i deyrnas.[1]
Mae cofnod amdano yn ymosod ar safleoedd gwŷr Mersia ar hyd y ffin a chofnodir hefyd ei fod wedi talu pris o geiniog y pen i ryddhau nifer o'i ddeiliaid oedd wedi eu cymryd yn garcharorion yn ymosodiadau'r Llychlynwyr. Roedd ymosodiadau y Daniaid yn broblem barhaus yn ystod teyrnasiad Maredudd. Yn 987 ymosododd y Daniad Godfrey Haroldson ar Ynys Môn gan ladd mil o wŷr a dwyn dwy fil ymaith yn garcharorion.[1]
Bu Maredudd farw yn 999 ac mae'n cael ei ddisgrifio ym Mrut y Tywysogion fel "brenin mwyaf clodfawr y Brutaniaid".[2] Yn dilyn ei farwolaeth enillwyd gorsedd Gwynedd yn ôl i linach Idwal Foel gan Cynan ap Hywel.[1]
Rhagflaenydd: Cadwallon ab Ieuaf |
Brenin Gwynedd 986 – 999 |
Olynydd: Cynan ap Hywel |
Rhagflaenydd: Owain ap Hywel |
Brenin Deheubarth 987 – 999 |
Olynydd: Edwin ab Einion a Cadell ab Einion |