Markéta Vondroušová | |
---|---|
Ganwyd | 28 Mehefin 1999 Sokolov |
Dinasyddiaeth | Tsiecia |
Galwedigaeth | chwaraewr tenis |
Taldra | 172 centimetr |
Priod | Štěpán Šimek |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Czech Republic Billie Jean King Cup team |
Gwlad chwaraeon | Tsiecia |
Chwaraewr tenis proffesiynol o Tsiecia yw Markéta Šimková (née Vondroušová ; ganwyd 28 Mehefin 1999), sy'n bencampwr presennol Wimbledon.[1] Roedd Vondroušová yn ail ym Mhencampwriaeth Agored Ffrainc 2019. Mae hi wedi ennill medal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2021 Tokyo.
Cafodd Vondroušová ei geni yn Sokolov, tref fechan yn y Weriniaeth Tsiec, yn ferch i David Vondrouš a Jindřiška Anderlová. [2] Ysgarodd ei rhieni pan oedd Vondroušová yn dair oed. [3]
Ar 16 Gorffennaf 2022, priododd Vondroušová ei phartner amser hir Štěpán Šimek. [4]